Neidio i'r prif gynnwy

Lansio panel 'Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus'

Cyhoeddwyd: 6 Rhagfyr 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn recriwtio ar gyfer panel ymgysylltu â'r cyhoedd i roi'r cyfle i bobl yng Nghymru i ddweud eu dweud am faterion sy'n effeithio ar iechyd a llesiant eu hunain a'u cymunedau.

Bydd y safbwyntiau sy'n cael eu casglu o arolygon misol yn cael eu defnyddio i lunio polisïau ac arferion iechyd cyhoeddus ledled Cymru. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu DJS Research Ltd., asiantaeth ymchwil annibynnol i adeiladu panel o drigolion 16 oed a throsodd sy'n byw yng Nghymru a fydd yn rhannu eu barn yn rheolaidd er mwyn helpu i lywio Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda'u penderfyniadau. 

Bydd y Panel yn cynnwys tua 2,500 o drigolion o bob rhan o Gymru. Bydd y grŵp o drigolion a ddewisir yn adlewyrchu natur amrywiol poblogaeth Cymru ac yn cwmpasu trawstoriad o drigolion, er enghraifft, o wahanol grwpiau oedran, rhywedd, ethnigrwydd a chyflogaeth, a bydd yr holl ohebiaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Os hoffech gymryd rhan neu gael rhagor o wybodaeth ewch i: