Neidio i'r prif gynnwy

Panel 'Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus' Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn recriwtio ac yn cynnal panel ymgysylltu â’r cyhoedd.

Mae hwn yn gyfle gwych i ddweud eich dweud am faterion sy’n effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant. Bydd y safbwyntiau a gesglir yn cael eu defnyddio i lunio polisïau ac arferion iechyd y cyhoedd ledled Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu DJS Research, sef asiantaeth ymchwil annibynnol, i ddatblygu panel o drigolion 16+ oed sy’n byw yng Nghymru a fydd yn rhannu eu barn yn rheolaidd i helpu i lywio Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth iddynt wneud penderfyniadau.

Bydd y Panel yn cynnwys tua 2,500 o drigolion o bob rhan o Gymru. Mae'n bwysig bod y grŵp dethol hwn o drigolion yn adlewyrchu natur amrywiol poblogaeth Cymru ac yn cwmpasu trawstoriad o drigolion, er enghraifft, o wahanol oedran, rhywedd, ethnigrwydd a grwpiau cyflogaeth.

Bydd y broses recriwtio ar gyfer y Panel “Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus” yn cael ei chynnal fel arolwg dros y ffôn, drwy hysbysebion cyfryngau cymdeithasol a chyfweliadau wyneb yn wyneb. Gofynnir i chi ar ddechrau’r arolwg a hoffech chi gwblhau’r arolwg yn Gymraeg neu’n Saesneg. Rydym yn croesawu pob gohebiaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg drwy gydol y prosiect, boed hynny i Iechyd Cyhoeddus Cymru neu i DJS Research.

Gall aelodau o dîm DJS Research gysylltu â chi o'r rhif ffôn canlynol 01663 761 697 neu drwy e-bost SiaradICCymru@djsresearch.com.

Os hoffech siarad ag aelod o dîm prosiect Iechyd Cyhoeddus Cymru, anfonwch e-bost at SiaradICCymru@wales.nhs.uk