Neidio i'r prif gynnwy

Goroeswr canser yn annog rhieni a gofalwyr i amddiffyn plant â brechiad HPV

Cyhoeddig: 11 Ionawr 2024

Mae tad i ddau o blant a gafodd driniaeth am ganser y pen a'r gwddf wedi ymuno â galwadau gan arbenigwyr iechyd i grwpiau cymwys fanteisio ar eu cynnig brechu yn erbyn feirws papiloma dynol (HPV) ac amddiffyn eu dyfodol yn erbyn canserau ataliadwy. 

Cafodd David Edwards, 58, o Laneirwg yng Nghaerdydd, ddiagnosis o diwmor canseraidd ar gydiadau ei donsiliau a'i dafod yn 2022 ar ôl sylwi ar lwmp bach ar ochr isaf ei ên. Tuag adeg ei fiopsi, profodd yn bositif am HPV 16, sef math o HPV y mae'n hysbys ei fod yn cynyddu'r risg o ganser. 

HPV yw'r enw a roddir i grŵp o feirysau cyffredin sy'n effeithio ar y croen. Mae mwy na 100 math o'r feirws hwn a bydd mwy nag wyth o bob deg o bobl nad ydynt wedi cael y brechlyn HPV yn ei ddal ar ryw adeg yn ystod eu bywydau. 

Meddai Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Nid yw'r rhan fwyaf o heintiau HPV yn dangos unrhyw symptomau, byddant yn clirio o'r corff yn naturiol, ac ni fyddant yn arwain at unrhyw broblemau iechyd difrifol i'r rhan fwyaf o bobl. Fodd bynnag, gall rhai achosion achosi defaid gwenerol neu newidiadau mewn celloedd sy'n gallu datblygu'n fathau penodol o ganser. Mae canserau sy'n gysylltiedig â HPV risg uchel yn cynnwys canser ceg y groth, rhai mathau o ganser y pen a'r gwddf, a chanserau eraill yr organau cenhedlu a'r anws. 

“Mae'r brechlyn HPV yn frechlyn effeithiol iawn, un dos sy'n cael ei gynnig i'r holl blant pan fyddant ym mlwyddyn wyth yn yr ysgol uwchradd ac mae hyn yn eu hamddiffyn i'w dyfodol drwy roi amddiffyniad hirdymor iddynt yn erbyn feirysau HPV a'r canserau y gallant eu hachosi wedyn. 

 “Rydym yn annog pob rhiant i gadw llygad am wybodaeth ynghylch y brechlyn HPV a fydd yn dod adref o'r ysgol, trafod hyn gyda'ch plentyn a dychwelyd y ffurflen gydsynio cyn gynted â phosibl, i sicrhau bod eu hiechyd yn y dyfodol yn cael ei amddiffyn.” 

 

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael y brechiad HPV yn cynnwys: 

  • Pawb 12 i 13 oed (blwyddyn wyth yn yr ysgol) 

  • Pobl ifanc sydd wedi colli eu brechiad HPV pan gafodd ei gynnig hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed os ydynt yn ferch, neu fechgyn a anwyd ar ôl 1 Medi 2006 

  • Dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) hyd at 45 oed 

Bydd imiwneiddio HPV yn dechrau mewn ysgolion yng Nghymru o ddechrau tymor y gwanwyn (Ionawr) a bydd yn parhau tan ddiwedd tymor yr haf. Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn cael gwybod a gofynnir iddynt am eu cydsyniad i'w plentyn dderbyn y brechlyn. 

(Credyd delwedd: Matthew Horwood.)

Yn ffodus, cafodd tiwmor David Edwards ei nodi yn gynnar. Yn dilyn triniaethau llawfeddygol i dynnu'r tiwmor, ei donsiliau a rhan o'i dafod, cafodd gemotherapi a radiotherapi. 

“Mewn gwirionedd, fe wnes i apwyntiad i weld fy meddyg teulu gan fod gen i hernia,” meddai David. “Wrth i mi adael, dywedais gyda llaw a allech edrych ar y lwmp bach hwn ar ochr isaf fy ngên. Nid oedd yn brifo, ond roedd yn dod yn weladwy, ac nid oedd gennyf unrhyw symptomau eraill.  

“Es i gael uwchsain a biopsi. Daethant o hyd i diwmor eilaidd yn y nod lymff, ac aethant ymlaen i ddod o hyd i'r tiwmor cychwynnol.  Ym mis Rhagfyr 2022 cefais y tiwmor wedi'i dynnu a dechrau cemotherapi a radiotherapi chwe wythnos yn ddiweddarach. 

“Maent wedi bod yn hapus gyda phopeth ers i mi fynd yn ôl i gael archwiliadau. Mae gen i gwpl o faterion parhaus yn bennaf yn ymwneud â'm llais, a'r ffaith bod fy ngheg neu fy ngwddf yn sych.” 

Dywedodd David y byddai'n annog pob person cymwys i gael ei frechlyn HPV i amddiffyn ei iechyd ei hun a helpu i weithio tuag at ddileu'r feirws yn y dyfodol.  

“Byddech yn hoffi meddwl 30 mlynedd yn y dyfodol, y byddai nifer yr achosion o ganserau fel fy un i, yn ogystal â chanser ceg y groth, yn ddibwys oherwydd imiwnedd torfol cynyddol cenedlaethau o bobl sy'n cael eu brechu yn erbyn HPV.” 

Cael brechlyn HPV yw'r ffordd orau o amddiffyn person yn erbyn y mathau o HPV sy'n achosi'r rhan fwyaf o ddefaid gwenerol, canser ceg y groth, a mathau eraill o ganser. Mae'r brechlyn bellach fel arfer yn cael ei gynnig fel pigiad un dos yn rhan uchaf y fraich a'i roi i fechgyn a merched 12 a 13 oed yn yr ysgol. 

Ionawr yw mis ymwybyddiaeth o ganser ceg y groth. Ers cyflwyno'r brechlyn HPV yn 2008, mae cyfraddau canser ceg y groth wedi gostwng bron 90 y cant mewn menywod yn eu 20au a gafodd gynnig y brechlyn yn 12 i 13 oed. Mae clinigwyr o'r farn y gallai cyfraddau ddisgyn hyd yn oed ymhellach os bydd nifer y rhai sy'n derbyn y brechlyn yn parhau'n uchel yn y blynyddoedd i ddod, a'i bod yn bosibl dileu canserau ceg y groth drwy godi ymwybyddiaeth, brechu, sgrinio a chanfod a thrin yn gynnar. 

Meddai Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru: “Wedi’i achosi gan fathau cyffredin o feirysau sydd fel arfer yn ddiniwed a elwir yn HPV, canser ceg y groth yw prif achos marwolaeth oherwydd canser ymhlith menywod o dan 35 oed. Mae ein hastudiaethau ein hunain wedi dangos effeithiau sy'n newid bywydau y gall HPV eu cael er ddynion iau o ran achosi rhai mathau o ganser y pen a'r gwddf. 

“Gyda thros 15 mlynedd o dystiolaeth, dangosir bod brechlynnau i amddiffyn yn erbyn HPV yn ffordd ddiogel ac effeithiol iawn o leihau nifer yr achosion o ganserau sy'n gysylltiedig â HPV, gan roi'r cyfle i'r clefydau hyn gael eu gwaredu unwaith ac am byth.”   

Ceir rhagor o wybodaeth am frechu HPV yma.