Neidio i'r prif gynnwy

Adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu diwylliant o ymchwil fel rhan o strategaeth newydd

Cyhoeddig: 20 Hydref 2023

Bydd adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio ar draws y sefydliad i ddatblygu diwylliant o ymchwil. Mae hyn yn rhan o strategaeth Ymchwil a Gwerthuso newydd wedi'i chynllunio i alluogi strategaeth hirdymor gyffredinol Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae’r strategaeth yn cwmpasu meysydd fel cryfhau'r gwaith o reoli a chynorthwyo gweithgareddau ymchwil a gwerthuso, yn ogystal â chryfhau partneriaethau â'r gymuned ymchwil a gwerthuso ehangach yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol. 

Mae'r strategaeth yn amlinellu sut y bydd yr adran yn cynnwys rhanddeiliaid, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr, y cyhoedd ac eraill, i gael adborth ar feysydd ymchwil blaenoriaeth. 

Meddai Elen de Lacy, Arweinydd Partneriaeth Strategol Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae datblygiad y strategaeth wedi'i lywio'n fawr gan strategaeth hirdymor gyffredinol Iechyd Cyhoeddus Cymru, a lansiwyd yn gynharach eleni. 

“Mae grŵp goruchwylio ymchwil a gwerthuso wedi'i sefydlu er mwyn cynorthwyo'r gwaith o weithredu'r strategaeth yn llwyddiannus.  Rwy'n edrych ymlaen at weithio ar draws y sefydliad a chyda rhanddeiliaid yn y gymuned ymchwil, yng Nghymru a thu hwnt, ar weithgarwch ymchwil a gwerthuso ystyrlon.”