Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ (WHO CC), yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i hailddynodi am bedair blynedd arall, gan sicrhau ei gwaith hanfodol i wella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru a thu hwnt, tan 2026.
Mae gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Bangor a Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd Iechyd Cyhoeddus Cymru (WHO CC) o ffilm fer sy'n hyrwyddo caredigrwydd yng Nghymru yn ystod cyfyngiadau COVID-19, wedi canfod bod ffilmiau sy'n ysgogi ymatebion emosiynol cryf yn dal i allu cael eu canfod yn gadarnhaol ac arwain at newid ymddygiad effeithiol.
Mae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa'r cyhoedd, er bod y gofyniad cyfreithiol i hunanynysu wrth brofi'n bositif am y Coronafeirws wedi newid, nid yw'r cyngor meddygol i wneud hynny wedi newid.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn cymryd y cyfle ar Ddiwrnod TB y Byd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i ailadrodd eu galwad i bobl y cysylltwyd â nhw fel rhan o'r achosion o dwbercwlosis Llwynhendy (TB) fynd i'w hapwyntiadau sgrinio.
Mae heddiw (23 Mawrth 2022) yn nodi dwy flynedd ers cyfnod clo cyntaf Cymru, mewn ymateb i'r Coronafeirws. Gwnaethom ofyn i Dr Giri Shankar MBE fyfyrio ar y ddwy flynedd ddiwethaf ac edrych ymlaen at sut y mae angen i bob un ohonom fyw gyda'r Coronafeirws wrth symud ymlaen.
Mae cyhoeddiad newydd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod y gostyngiad hirdymor yn y gyfradd marwolaethau oherwydd canser wedi cyflymu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae dau benodiad Cyfarwyddwr Anweithredol (NED) wedi'u gwneud i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Hywel Dda yn annog pobl y cysylltwyd â nhw fel rhan o'r achosion o dwbercwlosis (TB) yn Llwynhendy i fynd i'w hapwyntiadau sgrinio, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny.
Mae menywod beichiog yng Nghymru yn cael eu hatgoffa i gadw draw o anifeiliaid sy'n rhoi genedigaeth, neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, neu sydd wedi erthylu. Daw'r cyngor, sydd hefyd yn berthnasol i fenywod nad ydynt efallai'n siŵr a ydynt yn feichiog, yn ystod y tymor wyna yng Nghymru. Mae'r cyngor yn cael ei roi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd y risg i feichiogrwydd o heintiau a all ddigwydd mewn rhai mamogiaid.