Mae menywod beichiog yng Nghymru yn cael eu hatgoffa i gadw draw o anifeiliaid sy'n rhoi genedigaeth, neu sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, neu sydd wedi erthylu. Daw'r cyngor, sydd hefyd yn berthnasol i fenywod nad ydynt efallai'n siŵr a ydynt yn feichiog, yn ystod y tymor wyna yng Nghymru. Mae'r cyngor yn cael ei roi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oherwydd y risg i feichiogrwydd o heintiau a all ddigwydd mewn rhai mamogiaid.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan a'n dangosfwrdd data
Gyda rhybudd tywydd coch am wynt yn ei le, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl ledled Cymru i fod yn wyliadwrus gan y gallai gwyntoedd cryfion a achosir gan Storm Eunice a llanw uchel arwain at lifogydd posibl ddydd Gwener.
Mae cydweithio rhwng gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr ym maes cynllunio gofodol gyda chydweithwyr ym maes iechyd yn hanfodol er mwyn sicrhau'r cyfleoedd iechyd a llesiant mwyaf posibl wrth adfer o bandemig y Coronafeirws, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ymchwilwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn galw am gymorth ychwanegol i feithrin ymddiriedaeth ymhlith y rhai yr effeithir arnynt.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno gwelliannau i'w wyliadwriaeth feirysau anadlol y gaeaf.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn cynnal arolwg ffôn cenedlaethol ar gynhesrwydd tai ac iechyd a llesiant yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud gwelliannau pellach i'w ddangosfwrdd adrodd cyflym Covid-19 sy'n wynebu'r cyhoedd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymchwilio i un achos o dwbercwlosis (TB) mewn unigolyn sy'n gysylltiedig ag Ysgol Gyfun Coed-duon.