Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Y Diweddaraf: Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i achosion o hepatitis aciwt mewn plant

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus yr Alban (PHS) a'r Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus (Gogledd Iwerddon) er mwyn ymchwilio i hepatitis acíwt mewn plant. 

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr achosion o mpox yn y DU

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban, ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon er mwyn ymateb i achosion o frech y mwncïod yn y DU.

Astudiaeth yn canfod gostyngiadau sylweddol mewn diagnosis canser yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19
Newidiadau i wyliadwriaeth Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn newid y ffordd rydym yn cyflwyno adroddiadau ar ddata Covid-19 wrth i ni symud allan o'r pandemig.

Rhaglen Mesur Plant yn dangos cynnydd yn nifer y plant â gordewdra

Mae nifer y plant 4-5 oed sydd â gordewdra wedi cynyddu mewn dwy ardal bwrdd iechyd wahanol ers 2018-19, yn ôl y Rhaglen Mesur Plant.

Mwy nag ymateb i'r Coronafeirws; pam y dylai iechyd y boblogaeth fod yn uchel ar yr agenda bob amser

Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n esbonio pam mae astudio iechyd y boblogaeth ehangach bob amser yn hanfodol i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd a llesiant bobl, a hyd yn oed yn fwy felly wrth wynebu pandemig byd-eang.

Trosglwyddiad nosocomiaidd COVID-19: dau adroddiad newydd yn edrych ar effaith heintiau a gafwyd mewn gofal iechyd.

Mae dau adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi edrych ar effaith trosglwyddiad nosocomiaidd Coronafeirws (a gafwyd yn yr ysbyty) yn ystod y pandemig.

Iechyd meddwl pobl ifanc wedi'i flaenoriaethu gyda dyfarniad cyllid

Mae prosiect sy'n ceisio cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn Ne Cymru, wedi cael y golau gwyrdd, diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. 

Ymchwil mewn cymunedau glofaol yn datgelu sut mae hanes lleol yn dylanwadu ar faint sy'n manteisio ar frechiadau

Mae pobl sy’n byw mewn ardaloedd sydd â thraddodiad glofaol cryf yn fwy tebygol o fod ag agweddau negyddol tuag at frechiadau COVID-19 a chyfnodau clo na phobl sy’n byw mewn ardaloedd nad oes ganddynt yr un hanes, yn ôl tîm o ymchwilwyr o Gymru a’r Unol Daleithiau. 

Dathlu cyfraniad nyrsys

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dathlu nyrsys a bydwragedd am eu cyfraniad anhygoel i iechyd a gofal.