Mae Ymddiriedolaeth GIG Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd y mae croeso i'r cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'r staff, eu mynychu.
Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i gyhoeddi sy'n trafod annhegwch o ran cyfranogiad yn y rhaglenni sgrinio cenedlaethol sy'n seiliedig ar y boblogaeth yn dilyn tarfu a achoswyd gan bandemig y Coronafeirws.
Rhoddir rhybudd trwy hyn y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnal Ddydd Iau 28 Gorfennaf 2022 am 10.00.
Mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar bob person ifanc yng Nghymru, er bod sut yr effeithiwyd ar lesiant meddyliol pobl ifanc yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, yn ôl Asesiad newydd o'r Effaith ar Lesiant Meddyliol (MWIA) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio e-gatalog newydd, am ddim i helpu timau ac unigolion sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, ac annog ymddygiad cynaliadwy yn eu bywyd gwaith a'u bywyd cartref.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar ei staff i sicrhau bod cydweithwyr ac ymgyrchoedd sydd wedi mynd y filltir ychwanegol yn cael eu cydnabyddiaeth briodol yng Ngwobrau Arloesi mewn Iechyd Cyhoeddus 2022
Mae Labordy Data Rhyngweithiol (NDL) y Sefydliad Iechyd wedi dadansoddi data ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban i ddatgelu canfyddiadau newydd am blant a phobl ifanc sy'n cael cymorth iechyd meddwl.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a phobl ifanc i beidio â dibynnu'n llwyr ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am frechlynnau ac i chwilio am ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt, er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl ffeithiau cyfredol, cywir ynghylch pam mae brechlynnau'n helpu i achub bywydau.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio rhaglen arloesol o waith, sy'n cymhwyso dull Gwerth Cymdeithasol i adeiladu ‘Iechyd Cyhoeddus sy'n seiliedig ar Werth’ er mwyn helpu i sicrhau bod rhaglenni iechyd cyhoeddus effeithiol ac economaidd yn cael eu darparu yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae angen i gyrff cyhoeddus wneud mwy i leihau ac ailddefnyddio eu gwastraff, gan symud eu ffocws presennol ar ailgylchu a chreu economi fwy cylchol ac iachach, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.