Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Mae ymchwiliadau'n parhau yn dilyn tri achos ychwanegol o TB ar ôl marwolaeth myfyriwr o Lanbedr Pont Steffan ym mis Hydref 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Chyngor Sir Ceredigion yn ymchwilio i dri achos o dwbercwlosis (TB) gweithredol mewn unigolion a oedd yn gysylltiadau agos person a fu farw gyda'r clefyd y llynedd yn anffodus.

Dechrau cyflwyno rhaglen Atal Diabetes Genedlaethol Cymru

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan wedi dechrau cael ei chyflwyno yng Nghymru.

Tueddiadau o ran nifer yr achosion o ganser a'r cam adeg diagnosis yng Nghymru hyd at 2019

Mae cyfradd yr achosion newydd o ganser yng Nghymru, wedi'i haddasu ar gyfer oedran y boblogaeth, wedi gostwng, ond mae nifer yr achosion newydd yn parhau i gynyddu bob blwyddyn wrth i'r boblogaeth heneiddio.  

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ffyrdd o wella iechyd pobl ifanc a lleihau gordewdra

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu lansiad ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o ddatblygu syniadau newydd ar gyfer deddfwriaeth i wella iechyd pobl ifanc, ac i atal y cynnydd mewn cyfraddau gordewdra yng Nghymru.

Anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes yn cynyddu yng Nghymru

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cynyddu.

A allwch ein helpu i adrodd ein stori'n well?

Roeddem yn meddwl tybed a allech neilltuo peth amser a chymryd rhan mewn arolwg a fydd yn ein helpu i adrodd ein gwybodaeth bwysig yn well, a helpu i adeiladu Cymru iachach?

Annog Gofal Sylfaenol i ddechrau'r daith i gynaliadwyedd amgylcheddol a datgarboneiddio gyda chynllun gwobrwyo newydd

Mae Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru a’r Cynllun Gwobrwyo gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i gynllunio i helpu contractwyr gofal sylfaenol annibynnol (practis cyffredinol, optometreg gymunedol, fferylliaeth gymunedol ac ymarfer deintyddol gofal sylfaenol) i wella cynaliadwyedd amgylcheddol eu hymarfer o ddydd i ddydd.

Cyflogwyr yng Nghymru yn gosod safon aur ar gyfer iechyd a llesiant yn y gweithle

Mae adroddiad newydd gan dîm Cymru Iach ar Waith yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffyrdd niferus y mae cyflogwyr yng Nghymru wedi camu i'r adwy ac yn arwain y ffordd ar flaenoriaethu iechyd a llesiant meddwl a chorfforol eu gweithwyr, yn ystod ac yn dilyn pandemig y Coronafeirws. 

Bydd mynd i'r afael ag amodau gwaith yn gwella iechyd a llesiant da i bawb

Mae ‘gwaith teg’ yn floc adeiladu hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant da, ac mae gweithlu iach sy'n ymgysylltu yn cyfrannu at gynhyrchiant busnes a ffyniant cymdeithasol, yn ôl casgliad adroddiad a chanllaw a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Cryptosporidiwm a ffermydd agored

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl sy’n ymweld ag atyniadau fferm am bwysigrwydd golchi eu dwylo ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid