Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Mae angen cymorth i ddeall materion iechyd sy'n wynebu pobl ifanc

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud darn o waith i drafod materion iechyd sy'n effeithio ar bobl ifanc 11-25 oed. 

Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cymryd y cam nesaf ymlaen

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), sy'n cael ei harwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

Rhagfyr 2021: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Sgrinio Serfigol Cymru yn cyhoeddi estyniad i'r bwlch sgrinio

Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn ymestyn y bwlch sgrinio arferol i bobl â cheg y groth rhwng 25 a 49 oed o dair i bum mlynedd, os na cheir feirws papiloma dynol (HPV) yn eu prawf ceg y groth.  

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar achosion o amrywiolyn Omicron o'r Coronafeirws yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau achosion o amrywiolyn Omicron o'r Coronafeirws yng Nghymru.

Gallai mynd i'r afael ag anghydraddoldeb arbed £322 miliwn i ysbytai yng Nghymru bob blwyddyn

Mae anghydraddoldeb o ran y defnydd o ysbytai  yn costio'r hyn sy'n cyfateb i ysbyty GIG newydd sbon, neu gyflogau blynyddol bron 10,000 o nyrsys ychwanegol bob blwyddyn i’r GIG yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ac Adroddiad y Gweithlu 2020 - 21

Mae’r adroddiadau yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am gydraddoldeb, cyflogaeth a monitro mewn perthynas â’n gweithlu, ac mae’n manylu ar rywfaint o’r gwaith da a wnaed i wella cydraddoldeb yn ein timau. 

Mae'r pandemig wedi amlygu'r angen am strategaethau hirdymor i sicrhau tai saff, diogel i bawb

Mae Asesiad o'r Effaith ar Iechyd newydd a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y mae pandemig y Coronafeirws wedi dangos bod cael cartref saff.

Cyflogaeth am dâl ac addysg yn gysylltiedig â llesiant gofalwyr di-dâl

Mae ymchwil newydd gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, wedi canfod bod gan ofalwyr di-dâl iechyd llawer gwaeth na'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru.

Recriwtio cyfarwyddwyr anweithredol i Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am benodi dwy rôl Cyfarwyddwr Anweithredol newydd, i ymuno â Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.