Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl mewn grwpiau cymwys i fanteisio ar y cynnig o frechlyn atgyfnerthu Covid-19. Daw'r rhybudd wrth i drosglwyddo cymunedol, derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau o Covid-19 gynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf – arwyddion cynnar o don bosibl yn yr hydref.
Mae patrwm cymhleth sy'n datblygu o'r defnydd o gyffuriau ac argaeledd cyffuriau yn arwain at fwy o farwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru, gyda dwy ran o dair o farwolaethau yn 2021 yn cynnwys cyfuniad o gyffuriau, gan gynnwys alcohol a meddyginiaethau presgripsiwn.
Mae papur newydd yn dangos bod dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) fel camarfer plant a dod i gysylltiad â thrais domestig yn gallu effeithio ar ymddygiad magu plant unigolion yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae arbenigwyr gwella iechyd, wedi tynnu sylw at wahaniaethau annheg mewn canlyniadau beichiogrwydd a'r rôl hanfodol y mae gwasanaethau mamolaeth yn ei chwarae wrth nodi ac addasu dulliau ar gyfer y rhieni hynny mewn grwpiau risg uwch.
Mae pob Gwasanaeth Tân ac Achub Cymreig ac Iechyd Cyhoeddus Cymru'n ymbil ar bobl i gymryd camau syml i'w diogelu'u hunain rhag tanau damweiniol a gwenwyno carbon monocsid wrth iddynt geisio cadw'n glyd ac arbed ynni'r gaeaf hwn.
Bydd profion sgrinio canser y coluddyn ar gael i fwy o bobl yng Nghymru wrth i brofion cartref gael eu hehangu i gynnwys unigolion 55-57 oed.
O 1 Hydref 2022, mae staff Timau Iechyd Cyhoeddus lleol bellach yn cael eu cyflogi gan y Byrddau Iechyd perthnasol.
Mae cyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi golygu bod ap sydd wedi ei gynllunio i helpu defnyddwyr PrEP i gymryd eu meddyginiaeth yn fwy effeithiol, bellach ar gael ar Android ac mewn sawl iaith, gan gynnwys y Gymraeg.
Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn disgwyl tymor ffliw sylweddol y gaeaf hwn am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae pryderon y gall ddechrau'n gynharach eleni ac effeithio ar fwy o bobl.