Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i gymryd gofal yn y tywydd poeth iawn

Mae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl i gymryd gofal arbennig yn y tywydd poeth iawn a ragwelir dros y dyddiau nesaf. Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd canol y tridegau erbyn dydd Sadwrn mewn rhai rhannau o Gymru.

Mae lefelau hapusrwydd yn cynyddu gyda'r adferiad o'r pandemig bellach yn mynd rhagddo

Mae arolwg newydd i ymgysylltu â'r cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu er bod iechyd meddwl, hapusrwydd a gorbryder pobl wedi'u taro galetaf yn ystod gaeaf 20/21, nododd 70 y cant o'r rhai a holwyd eu bod yn teimlo'n hapus erbyn mis Mawrth 2022. 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn penodi Cyfarwyddwr Anweithredol newydd i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Cyfarwyddwr Anweithredol (NED) newydd wedi'i benodi i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae profion a thriniaeth gymunedol yn allweddol i ymdrechion byd-eang i ddileu hep c

Gallai profi a thrin cleifion am hepatitis c pan maent yn cael triniaeth methadon fod yn allweddol i gyflawni'r targed byd-eang o ddileu'r clefyd erbyn 2030

Mae Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru yn sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu yn ystod cyfnod heriol

Mae'r rhwydwaith yn nodi'r gwaith gwerthfawr y mae'n ei wneud i weithredu fel adnodd hollbwysig wrth gadw plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn ddiogel ledled Cymru.

Mae iechyd meddwl a llesiant yn flaenoriaeth i'r proffesiwn nyrsio a bydwreigiaeth

Mae canfyddiadau o adroddiad newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at effaith andwyol pandemig y Coronafeirws ar iechyd meddwl a llesiant nyrsys a bydwragedd yng Nghymru. 

Mae cynnal gweithredu dan arweiniad y gymuned yn allweddol i adfer ar ol y pandemig


Mae ymchwil newydd yn awgrymu y gallai harneisio’r ymchwydd mewn gweithredu a arweinir gan y gymuned yn ystod yr ymateb pandemig, fod yn allweddol i adeiladu cymunedau mwy gwydn ledled Cymru.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022 - wythnos i fynd!

Dim ond wythnos i fynd tan ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ddydd Iau 28 Gorffennaf 2022.

Mae data newydd yn tynnu sylw at wahaniaethau pwysig o ran cyflwyno ar gyfer argyfwng iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Mae Labordy Data Rhwydweithiol Cymru (NDL Cymru) wedi dangos potensial data cysylltiedig, drwy ddod â data ynghyd o bob rhan o'r system gofal argyfwng i ddeall iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru yn well. 

Cynllun Gweithredu Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol i gefnogi'r gwaith o weithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan

Mae cynllun gweithredu newydd Atal Gordewdra Gofal Sylfaenol wedi'i lansio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gefnogi'r gwaith o weithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan (AWWMP) 2021, yn unol â Chynllun Cyflawni Pwysau Iach: Cymru Iach 2022-24.