Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynghori pobl sy'n byw yn ardaloedd Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn yng Ngogledd Cymru i fod yn effro i symptomau Coronafeirws
Mae Dr Giri Shankar, Arweinydd Proffesiynol Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi derbyn MBE anrhydeddus gan Ei Mawrhydi i gydnabod ei wasanaethau i iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Mae cyfres newydd o adroddiadau sy'n canolbwyntio ar effeithiau Coronafeirws ar gyflogaeth yng Nghymru, wedi'i chyhoeddi heddiw (27.05.2021) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn y bennod ddiweddaraf o 'Health in Europe', mae Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop yn siarad â Dr Tracey Cooper, prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru am degwch iechyd a'r angen i lywodraethau a llunwyr polisi bontio bylchau i degwch er mwyn cryfhau'r adferiad o'r pandemig yn y pen draw.
Mewn canlyniadau o’r arolwg cenedlaethol diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, roedd 42 y cant o'r bobl a holwyd yn credu bod eu hiechyd meddwl yn waeth nawr nag ydoedd cyn y pandemig.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, wedi penodi Iain Bell yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus
Lansio arolwg cenedlaethol i glywed gan wirfoddolwyr a'r rhai sydd wedi mynd ati yn anffurfiol i roi o’u hamser i helpu eu cymunedau i ymateb i COVID-19.
Ym mis Mawrth, gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddau gyhoeddiad ynghylch aelodaeth Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y treial clinigol diweddaraf sy'n astudio brechlyn yn erbyn COVID-19.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyngor gwyddonol arbenigol grwpiau arbenigol y DU bod manteision brechu gyda'r holl frechlynnau COVID-19 sy'n cael eu defnyddio yn parhau i fod yn drech na risgiau COVID-19.