Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi sicrwydd i bobl gymwys bod digon o frechlyn rhag y ffliw am ddim gan y GIG ar gael, ond mae'n rhybuddio y bydd cael eich brechu yn cymryd mwy o amser oherwydd y galw mawr

Mae'r galw ymhlith grwpiau cymwys am y brechlyn rhag y ffliw am ddim gan y GIG wedi cyrraedd lefelau digynsail yng Nghymru.

Arolwg yn datgelu bod pobl yn dilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb

Mae 96 y cant o bobl yng Nghymru bellach yn dweud eu bod bob amser yn gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau, yn ôl yr arolwg ymgysylltu cenedlaethol diweddaraf a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y Bwrdd yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg

Roedd prif gyflawniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019-20 yn ymwneud â’r Safonau Gweithredu yn ôl adroddiad a gafodd ei gymeradwyo mewn cyfarfod Bwrdd ar 24 Medi.

Pryderon cynyddol am gymunedau Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful

Annog pawb i ddilyn canllawiau i atal cynnydd parhaus mewn achosion o'r Coronafeirws

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys yng Nghymru i gael brechlyn ffliw am ddim

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog yr holl bobl gymwys yng Nghymru i gael eu brechlyn ffliw am ddim wrth i GIG Cymru ddechrau ei raglen genedlaethol fwyaf erioed i frechu rhag y ffliw.

Arolwg yn datgelu bod 91% o oedolion Cymru yn cefnogi cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd lle mae achosion Coronafeirws ar gynnydd

Mae'r arolwg ymgysylltu cenedlaethol diweddaraf a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu bod 91 y cant o oedolion Cymru yn cefnogi cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd sydd ag achosion o Coronafeirws ar gynnydd.

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar tor diogelwch data

Mae’n ddrwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod torri rheolau data wedi digwydd yn ymwneud â data sy’n galluogi adnabod yn bersonol drigolion Cymru sydd wedi profi’n boisitif am COVID-19.

Rhagor o weithredu gydag iechyd cyhoeddus yn awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful fel ymateb i gynnydd diweddar yn yr achosion o'r Coronafeirws 

Mae rhagor o weithredu gydag iechyd cyhoeddus yn digwydd yn ardaloedd awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y Coronafeirws yn dilyn cynnydd mewn achosion.

Pobl yng Nghaerffili yn cael eu hannog i gadw pellter cymdeithasol gan fod clystyrau o'r coronafeirws yn achos pryder

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn annog pobl yng Nghaerffili i gofio pwysigrwydd hanfodol cadw pellter cymdeithasol, gan fod niferoedd cynyddol o achosion o'r coronafeirws (COVID-19) yn achos pryder.

Clwstwr o achosion COVID ym Merthyr Tudful

Cadarnhawyd bod gan gyfanswm o 13 o bobl COVID-19 mewn clwstwr sy'n canolbwyntio ar ardal Merthyr Tudful gyda nifer bach o achosion cysylltiedig wedi'u dosbarthu ar draws y rhanbarth.