Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ymchwilio i nifer o achosion cysylltiedig o Giardia yn ardal Bae Colwyn.
Mae gan 75 y cant o gyflogeion sector cyhoeddus Cymru a holwyd ymwybyddiaeth dda o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE). Fodd bynnag, dim ond 36 y cant sy'n teimlo'n hyderus yn eu gwybodaeth a'u sgiliau i helpu i atal ACE yn eu rôl.
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi, yn dilyn proses recriwtio penodiadau cyhoeddus ffurfiol, bod Dyfed Edwards wedi cael ei benodi i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dim ond 18 y cant o'r glasoed yng Nghymru sy'n cael y swm o weithgarwch corfforol a argymhellir, yn ôl dadansoddiad wedi'i ddiweddaru ar gyfer offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus (PHOF).
Mae lleihau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: (ACE), atal camddefnyddio alcohol a sylweddau, a gwella cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn rhai ffyrdd allweddol o helpu i atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc Cymru.
Ar Ddiwrnod Hawliau Dynol, gan ddathlu'r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn myfyrio ar yr amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau cydraddoldeb a hawliau dynol eithriadol a gynhelir ar draws y sefydliad. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion i ddod yn Sefydliad Noddfa cydnabyddedig.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn unwaith eto i bobl sy’n byw yn ardal Llwynhendy yn Sir Gaerfyrddin, a allai fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd TB, i ddod ymlaen i gael eu sgrinio.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at lwyddiannau'r tîm, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr ledled Cymru.
Mae Hyfforddiant Diogelu ar gyfer Paediatregwyr y Tîm Diogelu Cenedlaethol wedi helpu paediatregwyr i ddiweddaru eu gwybodaeth am ddiogelu i safonau proffesiynol gofynnol lefel 3.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd y mae croeso i'r cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'r staff, eu mynychu.