Mae arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu y byddai un o bob pump (21 y cant) o'r holl oedolion yn dal i geisio mynd ar wyliau dramor yr haf hwn pe na bai cyfyngiadau cwarantin ar ôl iddynt ddychwelyd.
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld llif o gefnogaeth ledled y byd ar gyfer y mudiad #Maebywydauduobwys. A hynny'n briodol.
Gall bod yn rhiant fod yn anodd. Mae bod yn rhiant yn ystod y cyfyngiadau symud yn anos fyth.
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru adroddiad newydd heddiw sy'n trafod iechyd a llesiant nyrsys a bydwragedd ledled Cymru cyn pandemig y coronafeirws.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch llesiant newydd i fynd i’r afael ag effaith negyddol COVID-19 ar lesiant meddyliol, corfforol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal arolwg ffôn ymgysylltu â'r cyhoedd i holi aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru sut y mae coronafeirws a mesurau rheoli sy’n gysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant.
Mae Cell Gwyliadwriaeth Coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio dangosfwrdd data rhyngweithiol i alluogi’r system iechyd, y cyhoedd a’r cyfryngau yng Nghymru i ddarganfod mwy am y feirws yng Nghymru.
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gynlluniau i ohirio apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn rhai brys a derbyniadau a gweithdrefnau llawfeddygol nad ydynt yn rhai brys er mwyn dargyfeirio staff ac adnoddau i gefnogi'r ymateb i Coronafeirws Newydd (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo argymhellion Iechyd Cyhoeddus Cymru i oedi rhai o'r rhaglenni sgrinio ar sail poblogaeth dros dro.
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad diweddaraf Disgwyliad Oes a Marwolaethau yng Nghymru 2020, sy’n disgrifio oedi mewn gwelliannau i ddisgwyliad oes a marwolaethau yng Nghymru yn ddiweddar.