Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Mae angen i anghenion iechyd a lles ffermwyr fod yn ganolog i'r ymateb i Brexit – adroddiad newydd

Mae angen gwneud mwy i ddiogelu rhag effaith niweidiol bosibl Brexit ar iechyd a lles cymunedau ffermio yng Nghymru, ac i herio'r stigma sy'n gysylltiedig â cheisio cymorth, yn ôl adroddiad newydd.

Dim achosion gweithredol o TB wedi nodi trwy Gam 2 Ymarfer Sgrinio TB Cymunedol Llwynhendy

Ni ddarganfuwyd unrhyw achosion gweithredol o glefyd TB yn y gymuned yn dilyn ail gam ymarfer sgrinio twbercwlosis cymunedol (TB) a gynhaliwyd yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn gynharach y mis hwn. Roedd hyn mewn ymateb i'r achos o TB yn Llwynhendy, Sir Gaerfyrddin.

Cyhoeddi agenda a phapurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd a gynhelir Ddydd Iau 26 Medi 2019

Cynhelir Cyfarfod Cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 26 Medi am 9.00am, yng ystafell 3.7, 2 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd.

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2019!

Cyflwynwyd naw gwobr i sefydliadau ledled Cymru am eu gwaith arloesol sydd wedi trawsnewid profiad a chanlyniadau pobl Cymru.

Hepatitis C wedi'i ddileu yn CEM Abertawe: Y tro cyntaf i garchar remánd yn y DU gyflawni hyn

Mae CEM Abertawe wedi dileu hepatitis C ymhlith poblogaeth ei garchar—y tro cyntaf i garchar remánd yn y DU gyflawni hyn.

Marwolaethau oherwydd cyffuriau ar eu lefelau uchaf erioed yng Nghymru

Mae marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru ar eu lefelau uchaf erioed yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda marwolaethau oherwydd gwenwyno gan gyffuriau wedi cynyddu 78 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf.

Mae Cynllun Gwên yn 10 oed!

Ym mis Medi, mae Cynllun Gwên, y rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg plant yng Nghymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. 

Adroddiad Blynyddol Twbercwlosis yng Nghymru 2019

Achosion o dwbercwlosis yn gostwng, ond mae'r clefyd yn parhau'n bryder

Ymateb i'r her o weithredu egwyddorion datblygu cynaliadwy - adroddiad newydd

Mae adroddiad newydd i gynorthwyo cyrff y sector cyhoeddus i weithredu egwyddorion datblygu cynaliadwy wedi'i gyhoeddi heddiw gan y Ganolfan Iechyd a Chynaliadwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae trawma y gellir ei atal mewn plentyndod yn costio $1.3 triliwn y flwyddyn i Ogledd America ac Ewrop

Ar draws Ewrop a Gogledd America mae effaith hirdymor Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ar iechyd a chynhyrchiant yn cyfateb i 1.3 triliwn doler y flwyddyn, yn ôl papur newydd a gyhoeddwyd yn Lancet Public Health.