Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Mae John Boulton wedi cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Gwella Ansawdd a Diogelwch Cleifion y GIG/Cyfarwyddwr 1000 o Fywydau

Bydd yn dechrau ar ei swydd ar 1 Medi 2019.

Nifer y smygwyr sy'n cael cymorth am ddim i roi'r gorau i smygu gan y GIG yn cynyddu traean

Gan dorri pob record, gwnaeth 15,599 o smygwyr yng Nghymru ddefnyddio gwasanaethau am ddim Helpa Fi i Stopio y GIG yn 2018-19 – sef y bedwaredd flwyddyn o dwf yn olynol a chynnydd o 3,672 o smygwyr o gymharu â phum mlynedd yn ôl (31 y cant).

Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd

Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol Cymru wedi cyhoeddi ei chweched adolygiad blynyddol.

Dweud eich dweud ar ein Amcanion Strategol Cydraddoldeb

Fel sefydliad iechyd cyhoeddus ceisiwn ymgorffori cynhwysoldeb ym mhob agwedd o’r gwaith y darparwn ar gyfer pobl Cymru.

Marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru yn 2018

Cofrestrwyd cyfanswm o 208 o farwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau yn 2018.

Ysgolion iach yn ennill 23 o Wobrau Ansawdd Cenedlaethol yn 2018-19

Llongyfarchiadau i'r 23  o ysgolion yng Nghymru a dderbyniodd y Wobr Ansawdd Genedlaethol ar gyfer iechyd a llesiant dros flwyddyn academaidd 2018-19. 

Gweithdy cyntaf iechyd rhywiol mewn carchardai

Cynhaliodd y tîm Diogelu Iechyd ei weithdy cyntaf erioed ar ddarpariaeth iechyd rhywiol yng ngharchardai Cymru y mis diwethaf.

Hajj Iach: Annog pererinion i fod yn ymwybodol o MERS-CoV

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pererinion Hajj i fod yn ymwybodol o MERS-CoV, sydd weithiau'n cael ei alw'n ‘ffliw camelod’, a chymryd camau i ddiogelu rhagddo. 

Cyhoeddi papurau'r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Gwella

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Gwella ddydd Mawrth 6 Awst , 2019. 

Mae cofrestru ar gyfer Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019 bellach ar agor!

Cynhelir Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru eleni ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd.