Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

Wythnos 62: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rhybudd o Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhoddir rhybudd trwy hyn y bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnal Ddydd Iau 29 Gorfennaf 2021 am 10am. 

Nifer yr amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) yn codi i 488 o achosion yng Nghymru

Mae nifer yr achosion newydd o'r amrywiolyn Delta (21-APR-02) wedi codi i 488 yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) bellach yw'r amrywiolyn mwyaf cyffredin o achosion newydd yng Nghymru wrth i'r niferoedd godi i 315

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau heddiw bod nifer yr amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) wedi cynyddu i 315.  Mae hyn yn gynnydd o 131 achosion ers y diweddariad diwethaf a roddwyd ar 10 Mehefin. 

Adroddiad yn amlygu'r heriau a wynebir gan ofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig

Mae adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd, a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn amlygu'r heriau ychwanegol y mae gofalwyr di-dâl wedi'u hwynebu yn ystod pandemig y Coronafeirws.

81 o achosion newydd o amrywiolyn Delta ers 3 Mehefin, wrth i drosglwyddo lleol yn y gymuned ddigwydd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol a derbyn y cynnig i gael brechlyn yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o'r amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) o'r Coronafeirws.

Gwnaeth strategaethau ymdopi wahaniaeth i iechyd meddwl pobl ifanc yn ystod y pandemig

Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw (08.06.21) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn nodi bod pobl ifanc a wnaeth ymdrech ymwybodol i ddefnyddio ymddygiad cadarnhaol wedi eu helpu i ddelio â'r newidiadau i'w bywydau yn ystod y pandemig.

Dosbarthwyd dros 1,300 o becynnau prawf llif unffordd mewn pum diwrnod yn yr ymchwiliad i'r clwstwr yng Nghonwy

Mae pobl sy’n byw yng Nghyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn yn cael eu hannog i gael prawf Coronafeirws am ddim er mwyn helpu i atal lledaeniad amrywiolyn Delta o'r Coronafeirws (VOC-21APR-02), hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw symptomau.

Mae siarad am brofiadau plentyndod gydag ymwelydd iechyd yn cyfoethogi perthnasoedd ac yn gwella iechyd y teulu cyfan

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (25.05.21) yn awgrymu pan fydd ymwelwyr iechyd yn holi am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) y sawl sy'n rhoi gofal fel rhan o'u hymweliadau rheolaidd, ceir cyfres o fanteision cadarnhaol i bawb.

Gallai dysgu gwersi o'r pandemig weld gostyngiad hirdymor mewn llygredd aer trefol

Mae blaenoriaethu mynediad at deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig er mwyn lleihau teithiau mewn ceir a chysylltiad â llygredd aer i bawb yn ôl casgliad papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan dîm o'r Adran Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Lloegr.