Mae 2.46 miliwn o blant o dan 15 oed yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn y DU. Mae cyfraddau tlodi wedi parhau'n uchel yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf gyda phlant yn gyson yn wynebu'r risg uchaf o fyw mewn tlodi o blith unrhyw grŵp oedran.
Mae'r canlyniadau diweddaraf o arolwg panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos nad yw 65 y cant o'r cyhoedd yn ymwybodol bod menywod beichiog yn gymwys i gael brechiad yn erbyn pertwsis (y pas).
Mae’r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi cyhoeddi y dylid cynnig brechiad atgyfnerthu'r gwanwyn COVID-19
Mae Adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio'r ddau gynnyrch cyntaf mewn cyfres o adnoddau i helpu staff mewn gofal sylfaenol i gael sgyrsiau er mwyn cefnogi pobl i fabwysiadu ymddygiad iachach.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni a gwarcheidwaid i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu'n llawn yn erbyn y frech goch ac wedi cael pob imiwneiddiad yn ystod plentyndod.
Mae arbenigwyr iechyd deintyddol cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu'r canfyddiadau o raglen archwilio iechyd deintyddol plant ddiweddar sy'n dangos bod cyfran y plant ifanc yng Nghymru sydd â phrofiad o bydredd dannedd wedi parhau i ostwng ers dechrau cyflwyno adroddiadau yn 2007/08.
Mewn adroddiad newydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y mae'r argyfwng costau byw yn gwneud cartrefi'n llai fforddiadwy i rai pobl a sut y mae hyn yn effeithio ar eu hiechyd.
Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn annog pob menyw feichiog a rhieni babanod a phlant ifanc i sicrhau eu bod wedi cael eu brechiadau pertwsis (y pas) wrth i achosion yng Nghymru ddangos cynnydd cyflym dros yr wythnosau diwethaf.
Byddai cyflwyno Trwyddedu Graddedig ar gyfer Gyrwyr (GDL) yn achub bywydau yn y DU, yn ôl ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgynghoriad.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cwblhau eu cwrs llawn o frechlynnau MMR, wrth iddo gadarnhau bod y brigiad o achosion o'r frech goch yng Nghaerdydd a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023 bellach wedi dod i ben.