Bydd, cedwir eich holl wybodaeth yn unol â’r ddeddf diogelu data. Bydd eich atebion yn ddienw. Gallwch ddarllen hysbysiad preifatrwydd astudiaeth CABINS yma: https://beaufortresearch.co.uk/terms-conditions/?lang=cy. Gallwch ddarllen hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gymraeg yma: https://icc.gig.cymru/defnydd-y-safle/hysbysiad-preifatrwydd/ ac yn Saesneg yma: https://phw.nhs.wales/use-of-site/privacy-notice/.
Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth gydag eraill os byddwch yn datgelu gwybodaeth sy’n nodi eich bod chi neu rywun arall mewn perygl o niwed. Os cawn wybodaeth am fater diogelu, byddwn yn ei rannu â’r gwasanaethau perthnasol. Mae hyn yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).