Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio Mamau a Phlant a Covid-19 (Coronavirus) - 24 Gorffennaf 2020

Mae rhaglenni Sgrinio Cyn Geni Cymru, Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig a Sgrinio Clyw Babanod wedi parhau yn ystod pandemig y Coronafeirws oherwydd bod gan bob un o'r rhain gyfnod byr o amser ar gyfer nodi a thriniaeth brydlon.  Byddwn yn gwneud ein gorau i barhau ond bydd hyn yn dibynnu ar ein lefelau staffio ni a'n cydweithwyr yn y byrddau iechyd.
 
Mae Sgrinio Clyw Babanod Cymru yn ailddechrau'r clinigau sgrinio clyw babanod o fis Gorffennaf 2020 ar gyfer y babanod hynny na chawsant eu sgrinio yn yr ysbyty. Byddwn yn cysylltu â rhieni i gynnig y sgrinio ac esbonio'r trefniadau ar gyfer mynd i'r clinigau.