Gallwch hefyd gael gwybodaeth am brofion sgrinio gan eich bydwraig neu’ch meddyg ysbyty (eich obstetregydd) ac o wefan Sgrinio Cyn Geni Cymru.
Os byddwch yn symud cartref yn ystod eich beichiogrwydd, dywedwch wrth eich bydwraig er mwyn iddi allu diweddaru’ch cofnodion meddygol.
Mae ansawdd y prawf sgrinio a gynigir gan y GIG yng Nghymru yn cael ei fonitro. Mae rhai menywod yn talu’n breifat i gael profion sgrinio.
Nid yw profion sgrinio a gynhelir gan glinigau preifat yn cael eu monitro gan y GIG. Mae hyn yn golygu na fydd gan eich bydwraig wybodaeth am ansawdd a chywirdeb profion sgrinio a gynhelir gan glinigau preifat.
Mae CARIS yn casglu gwybodaeth am anomaleddau cynhenid a chlefydau prin. Mae'r wybodaeth a gedwir ar gofrestr CARIS yn gwbl gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn trosglwyddo eich enw i unrhyw un arall na'i gyhoeddi.
Rydym yn gobeithio y bydd pawb am gael eu cynnwys i'n helpu i gynllunio a gwella gwasanaethau i rieni a phlant yn y dyfodol. Os hoffech i ni ddileu eich manylion o'r gofrestr, cysylltwch â thîm CARIS.
Gwefan: Am CARIS - Iechyd Cyhoeddus Cymru
E-bost: caris@wales.nhs.uk
Ffôn: 01792 285241
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am hysbysiad preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i:-
icc.gig.cymru/defnydd-y-safle/hysbysiad-preifatrwydd Neu ysgrifennwch at:
Y Swyddog Diogelu Data
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru 2 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall,
Caerdydd CF10 4BZ