Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant ac Addysg Gymunedol

Mae Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig hyfforddiant am ddim ar raglenni Sgrinio GIG Cymru.  

Ar gyfer pwy mae'r hyfforddiant? 

Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer pobl allweddol sy'n gweithio ac/neu sydd â rôl weithredol yn hybu iechyd a llesiant ar lefel gymunedol neu yn y gweithle. 

Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i chi wneud y canlynol: 

  • Codi ymwybyddiaeth o sgrinio yn eich cymuned a/neu'ch gweithle 
  • Rhoi cymorth i’ch cyfoedion yn eich rhwydweithiau cymunedol  
  • Cyfleu gwybodaeth sgrinio mewn ffordd sy'n gweithio i'ch cymuned 
  • Cael sgyrsiau agored am sgrinio gyda'r bobl rydych chi'n eu cefnogi 
  • Cefnogi a chyfeirio pobl at adnoddau mewn fformatau hygyrch 
  • Cymryd rhan mewn cyfleoedd ymgysylltu i wella gwasanaethau sgrinio. 

 

Beth fydda i'n ei ddysgu o'r hyfforddiant? 

Mae tri modiwl ar gael sy'n cael eu cyflwyno trwy Microsoft Teams (MST).  Cyflwynir y modiwlau yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Rydym yn argymell eich bod yn cwblhau’r modiwl ‘Cyflwyniad i Sgrinio’ yn gyntaf. 

 

Modiwl Un - Cyflwyniad i Sgrinio (1 awr) 

Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ddeall y canlynol: 

  • Sgrinio GIG Cymru   
  • Pam mae pobl yn cymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio neu ddim yn cymryd rhan ynddynt pan gânt eu gwahodd.  
  • Sut y gallwn oresgyn rhwystrau i sgrinio.  
  • Yr adnoddau sydd ar gael. 

 

Modiwl Dau - Rhaglenni Sgrinio (1 awr) 

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol a Sgrinio Llygaid Diabetig. 

 

Modiwl Tri - Rhaglenni Sgrinio Canser (1 awr) 

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar Sgrinio Serfigol, Sgrinio’r Fron a Sgrinio’r Coluddyn. 

Bydd modiwlau dau a thri yn ymdrin â’r canlynol: 

  • Pwy sy'n gymwys i gael ei sgrinio. 
  • Pa brofion sy'n cael eu cynnig. 
  • Beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi'n cymryd rhan. 
  • Pa adnoddau sydd ar gael. 
  • Beth allwch chi ei wneud i godi ymwybyddiaeth yn eich cymuned. 

 

Os hoffech archebu lle neu am ragor o wybodaeth gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at: ymgysylltu.sgrinio@wales.nhs.uk