Neidio i'r prif gynnwy

Gofalu Am Eich Bronnau

Mae’r daflen yma’n dweud wrthych chi sut mae gofalu am eich bronnau. 

 

Cyhoeddwyd Chwefror 2021
 

Cynnwys

― Sut i fod yn ymwybodol o'r fron
Dyma god 5 pwynt gofal y fron
― Sut ydw i'n gwirio fy mronnau?
― Am beth ddylwyn i chwilio a theimlo?
― Beth ydw i'n ei wneud os ydw i'n dod o hyd i newid?
― Sgrinio'r fron
― A yw canser y fron yn rhedeg mewn teuludoedd?
― Manylion cyswllt
 

 

Sut i fod yn ymwybodol o'r fron

Mae’r daflen yma’n dweud wrthych chi sut mae gofalu am eich bronnau. Mae gofal y fron yn rhan o’r broses o ofalu am y corff cyfan. Mae’n bwysig i chi adnabod ymddangosiad a theimlad arferol eich bronnau fel eich bod chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau. Er ei fod yn anghyffredin, gall dynion gael canser y fron, felly mae’n bwysig i ddynion ofalu am eu bronnau hefyd.

 

Dyma god 5 pwynt gofal y fron

  • Dysgu beth sy’n normal i chi
  • Gwybod am ba newidiadau i chwilio
  • Edrych a theimlo
  • Rhoi gwybod yn syth am unrhyw newidiadau i’ch meddyg teulu
  • Mynd yn rheolaidd i gael sgrinio’ch bronnau os ydych chi dros 50 oed

 

Sut ydw i'n gwirio fy mronnau?

Nid oes un ffordd gywir o wirio’ch bronnau. Rhaid i chi benderfynu ar y ffordd orau i chi. Gallwch chi wirio yn y gawod neu:

  • wrth wisgo amdanoch
  • wrth orwedd i lawr
  • wrth sefyll o flaen y drych

Cofiwch wirio pob rhan o’ch bronnau, eich cesail hyd at bont eich ysgwydd a rhwng eich bronnau.

 

Am beth ddylwyn i chwilio a theimlo?

  • Newid ym maint neu siâp un o’ch bronnau
  • Unrhyw grychu neu bantiau yn y croen
  • Unrhyw newid yn safle’r deth – yn gwyro am i mewn neu i gyfeiriad gwahanol
  • Unrhyw lwmpiau neu fannau trwchus neu anwastad yn un o’ch bronnau neu yn y gesail
  • Unrhyw waedu neu redlif (discharge) o’r deth
  • Brech o gwmpas y deth
  • Chwydd yn eich cesail
  • Poen neu anesmwythdra cyson yn un o’ch bronnau nad ydych chi wedi’i gael o’r blaen

 

Beth ydw i'n ei wneud os ydw i'n dod o hyd i newid?

Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw newid yn un o’ch bronnau, dylech chi siarad gyda’ch meddyg teulu neu nyrs y practis yn syth. Nid canser yw naw o bob deg newid yn y fron ond, os oes problem, mae’n well ei thrin yn gynnar.

 

Sgrinio'r fron

Mae menywod 50–70 oed yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio bob tair blynedd. Os ydych chi dros 70 oed, mae croeso i chi ofyn am apwyntiad drwy gysylltu â’r ganolfan sgrinio’r fron yn eich ardal. Mae’r perygl o gael canser y fron yn cynyddu wrth i rywun fynd yn hyn. ˆ Mae’n dal yn bwysig i wragedd dros 70 oed ddod i gael sgrinio’u bronnau.

 

A yw canser y fron yn rhedeg mewn teuludoedd?

Nifer bach (5–10%) o ganserau’r fron sy’n rhedeg yn y teulu. Os ydych chi’n poeni am hanes o ganser y fron yn eich teulu, siaradwch gyda’ch meddyg teulu.

 

Manylion cyswllt

Ewch i'n tudalen cysylltu â ni

Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o’r rhaglen hon, bydd angen i ni ymdrin â rhywfaint o wybodaeth bersonol amdanoch chi.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi am hyn, gallwch: