Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant

1.     A oes angen hyfforddiant gofal y geg ar yr holl staff gofal?

Oes! Fel pob agwedd ar ofal iechyd, mae’n hanfodol bod y staff yn cael eu hyfforddi’n gywir i ddarparu gofal yn ddiogel ac effeithiol. Mae gofal y geg yn rhan annatod o leihau’r risg o haint a gwella hydradiad ac esmwythdra’r preswylwyr.

2.     Beth fydd y staff gofal yn ei ddysgu?

Bydd y staff yn dysgu pam mae gofal y geg da yn bwysig, a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi’r preswylwyr gyda gofal y geg a’r adnoddau sydd ar gael. Byddant yn dysgu sut i ddarparu gofal y geg da i breswylwyr sy’n ddibynnol ar ofal a strategaethau i reoli’r preswylwyr sydd angen gofal ychwanegol neu sydd â dementia.

3.     Pwy sy’n darparu’r hyfforddiant gofal y geg?

Gellir trefnu’r hyfforddiant gyda’r tîm deintyddol Gwên am Byth lleol. Mae’n bosibl y byddant yn hyfforddi’r holl staff sy’n darparu gofal personol mewn cartref gofal, neu mae’n bosibl y byddant yn hyfforddi eiriolwyr gofal y geg a enwebwyd o fewn cartref gofal, a gefnogir i hyfforddi eu cydweithwyr.

Cysylltwch â’ch tîm Gwên Am Byth lleol i gael mwy o wybodaeth:

Aneurin Bevan 
https://bipab.gig.cymru/gwasanaethau-gofal-iechyd/meddygon-teulu-deintyddion-ac-ati/deintydd/y-gwasanaeth-deintyddol-cymunedol/
ABB.gab@wales.nhs.uk

Betsi Cadwaladr
https://bipbc.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-lleol/deintyddol/
BCU.NWCDSGaBCareHomesAdvice@wales.nhs.uk

Caerdydd a’r Fro
https://bipcaf.gig.cymru/ein-gwasanaethau/gwasanaeth-deintyddol-cymunedol/
CDS.Gwenambyth.Cav@wales.nhs.uk

Cwm Taf Morgannwg
https://bipctm.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaeth-deintyddol-cymunedol/
CTM.GwenamByth@wales.nhs.uk

Hywel Dda
https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/deintyddol/
Ffon:  01437 834428 / 01437 834403

Powys
https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-cymunedol-oedolion-a-phobl-hyn/gwasanaethau-deintyddol-cymunedol/
Gab.Powys@wales.nhs.uk

Bae Abertawe
https://bipba.gig.cymru/gofal-cymunedol-sylfaenol/meddygon-teulu-deintyddion-ac-ati/gwasanaeth-deintyddol-cymunedol/
sbu.gwenambythteam@wales.nhs.uk