Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad a chynllun gofal y geg

Asesiad Gofal y Geg Misol

Fy nghynllun gofal y geg

Mae gwasanaethau deintyddol cymunedol ledled Cymru wedi gweithio’n agos gyda staff cartrefi gofal i ddatblygu Asesiad a Chynllun Gofal y Geg i Gymru Gyfan.

Mewn lleoliad gofal iechyd, caiff asesiad ei ddisgrifio fel casglu gwybodaeth a llunio barn ynghylch iechyd, sefyllfa, anghenion a dymuniadau unigolyn, a ddylai arwain unrhyw gamau iechyd pellach.

Dylai pob preswylydd cartref gofal gael asesiad gofal y geg o fewn saith niwrnod ar ôl iddynt symud i gartref gofal, a fydd yn cael ei ddiweddaru’n fisol wedi hynny, neu’n gynt os oes angen. Gall staff nyrsio neu ofal sydd â’r hyfforddiant priodol ei gynnal ac mae’n cynnwys gofyn cwestiynau i’r preswylydd ac edrych i mewn i’r geg gyda golau ysgrifbin. Lle bo teulu a ffrindiau yn rhan o’r gofal parhaus, ystyriwch eu cynnwys yn yr asesiad cychwynnol, gyda chaniatâd y preswylydd, os bydd yn helpu’r staff i ddeall arferion hylendid y geg rheolaidd y preswylydd.  

Mae asesiad gofal y geg effeithiol yn nodi’r ffactorau risg er mwyn hysbysu a chefnogi’r cynllun gofal y geg. Mae’r asesiad yn helpu’r staff i nodi problemau ar y cam cynharaf a llunio cynllun gofal ar gyfer y preswylydd. Nid yw’r asesiad yn archwiliad neu’n offeryn diagnostig a bydd angen i staff y cartref gofal gadw mewn cysylltiad agos â’r tîm deintyddol Gwên am Byth lleol i gael cyngor a chefnogaeth.

Rhaid cadw’r asesiad a’r cynllun gofal y geg mewn ffolder sy’n hygyrch iawn i’r holl staff. Mae cofnodi bod gofal y geg wedi’i ddarparu a’i gynnal yn bwysig am sawl rheswm: 

  • Mae’n rhan hanfodol o ofal da
  • Mae’n nodi’r preswylwyr y mae risg uwch iddynt ddatblygu problemau gyda’r geg
  • Mae’n amlygu’r preswylwyr y mae angen cymorth gyda gofal y geg arnynt
  • Mae cofnodi gofynion a gweithgaredd dyddiol gofal y geg yn sicrhau parhad y gofal rhwng gweithwyr proffesiynol gofal gwahanol.
  • Cydymffurfiaeth â Deddf Rheoleiddio ac Adolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Os na chaiff ei gofnodi, gellid tybio nad yw’n cael ei gyflawni.