Neidio i'r prif gynnwy

Cyfres o weithdai rhithwir | Sgiliau ar gyfer newid cydweithredol

Gweithdy 6 |  Dydd Mawrth 7 Rhagfyr 2021, 11:30am–1.00pm 

Lleoliad | Ar-lein trwy Zoom

Cofrestrwch yma

Yn y gweithdy hwn, byddwn yn canolbwyntio ar Sgiliau ar gyfer newid cydweithredol – Dysgu trwy wneud: gweld y system ehangach

Clywch gan gydweithwyr yn Uned Penderfynyddion Iechyd Ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n dwyn ynghyd, a hynny trwy Communities4Change Cymru, unigolion o nifer o asiantaethau gyda nod cyffredin i alluogi ac i gyflymu newid i wella iechyd a thegwch iechyd ar draws y system.

Cysylltwch mewn ystafelloedd trafod estynedig a chydweithiwch ag eraill mewn gweithgaredd sy’n eich helpu i weld y system ehangach ac i nodi pa rannau o’r system sy’n effeithio ar ei gilydd, a pham.

Datblygwch sgiliau i gydnabod beth sy’n digwydd ar draws system gyfan a gwelwch y mater o nifer o safbwyntiau cysylltiedig.

Ar ddiwedd y gweithdy bydd cyfle i aros ar yr alwad am hanner awr i rwydweithio ag eraill.