Neidio i'r prif gynnwy

FAQ

25/11/19
Beth yw Gwelliant Cymru?

Gwelliant Cymru yw gwasanaeth gwelliant Cymru gyfan GIG Cymru. Rydym ni’n arbenigwyr mewn datblygu, mewnosod a chyflwyno gwelliannau ar draws y system ym maes iechyd a gofal cymdeithaol.

Rydym ni’n gweithio’n agos â’n partneriaid i’w cefnogi nhw i wella’n barhaus beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n ei wneud i helpu creu Cymru iachach.

25/11/19
Pam ydych chi wedi newid eich enw i Gwelliant Cymru?

Yn ystod 2019, cynhaliom lawer o ymchwil i ddarganfod beth mae iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ei eisiau a’i angen o’r gwasanaeth gwelliant. O ganlyniad, dechreuom broses ddatblygu gyffrous ar gyfer ein brand a’n gwasanaeth, er mwyn i ni allu cyflawni Cymru iachach. Mewn cydweithrediad â’n partneriaid, rydym ni’n ailfeddwl sut rydym ni’n cefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i wella beth maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n ei wneud, yn ogystal â newid ein henw a’n brand. Rydym ni newydd ddechrau ein dechreuad newydd, ac eisiau eich cynnwys chi ar hyd y ffordd.

25/11/19
Beth yw gwelliant?

I ni, mae gwelliant yn golygu gwneud newidiadau i’r ffordd rydym ni’n gweithio a fydd wedyn yn gwella’r gwasanaeth rydym ni’n ei ddarparu i’r rheiny rydym ni’n gofalu amdanynt.

22/11/19
Ble alla' i gael gwybodaeth am raglen gwelliant, a sut galla' gymryd rhan?

Rydym ni’n cefnogi nifer o raglenni Cymru gyfan Gwelliant Cymru, dan arweiniad cydweithrediad rhwng ein tîm â phartneriaid allweddol ledled Cymru.

Darganfyddwch fwy yma

25/11/19
Roeddwn i'n gweithio gyda 1000 o Fywydau ar raglen waith yn flaenorol. A yw hynny wedi newid?

Rydym ni’n parhau i ddarparu holl raglenni Cymru gyfan Gwelliant Cymru dan arweiniad cydweithrediad rhwng ein tîm â phartneriaid allweddol ledled Cymru. Byddwn ni’n datblygu gweddnewidiad ar gyfer rhai o’n rhaglenni, a bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyfleu i chi trwy arweinydd eich rhaglen.