Neidio i'r prif gynnwy

Llyfrgell Adnoddau

6 cham y Daith Gwella Ansawdd

Mae gwneud gwelliannau i'ch system yn daith. Mae'r Daith Gwella Ansawdd yn dangos y camau mewn prosiect gwella. Mae’n mapio’r 6 cham allweddol y bydd angen i chi eu cymryd er mwyn creu gwelliant parhaus:

  1. Creu Amodau
  2. Deall Systemau
  3. Datblygu Nodau
  4. Profi Newidiadau
  5. Gweithredu
  6. Lledaenu

Dysgwch ragor am bob cam isod a gweld pa offer a dulliau fydd yn eich cefnogi ar bob cam.


1 – Creu Amodau

Ar ddechrau prosiect gwella, rhaid i'r amodau fod yn iawn. Mae angen ymdeimlad o frys i amlygu pam mae angen y newid. Bydd angen i chi ofyn am gefnogaeth sefydliadol, a chynnwys y bobl iawn sydd â gweledigaeth glir, pwrpas a gwerthoedd a rennir. Bydd cymryd yr amser i greu’r amodau cywir ar gyfer newid yn eich helpu i adeiladu sylfaen gref ar gyfer gwelliant parhaus.

Mae offer a gwybodaeth ddefnyddiol ar gael isod i'ch helpu yng nghamau cynnar eich prosiect gwella.

 

2 – Deall Systemau

Gall systemau fod yn gymhleth, ac yn aml ni allwn weld yr holl rannau gwahanol. Mae'n hanfodol ein bod yn dod i adnabod y system gyfan yn hytrach nag edrych ar rannau ar eu pennau eu hunain cyn i ni wneud unrhyw newidiadau. Ar y cam hwn, mae'n bwysig deall data i weld sut mae pethau'n gweithio, a rhyngweithio â'r rhai sy'n eu defnyddio. Er enghraifft, gwrando ar adborth ac arsylwi ar ddefnyddwyr gwasanaeth, yn ogystal â gwrando ar y bobl sy'n gweithio yn y system.

Mae offer allweddol ar gael i'ch helpu i ddeall system. Rydym wedi rhestru ein hargymhellion isod.

 

3 - Datblygu Nodau

Ar ôl i chi gwblhau cam 2, dylai fod gennych ddarlun clir o berfformiad y system ar hyn o bryd. Nawr mae angen i chi benderfynu beth rydych chi'n mynd i'w wella mewn gwirionedd, gan gynnwys sut olwg sydd ar “gwell” a sut y byddwch chi'n cyflawni hyn. Gyda nod clir, byddwch yn gallu datblygu syniadau ar gyfer newid y gellir eu profi ar ôl hynny.

 

P Penodol Beth fydd yn cael ei gyflawni? Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd?
M Mesurawdy Pa ddata fydd yn mesur y nod? (Pa faint? Pa mor dda?)
C Cyflawnadwy Ydy'r nod yn gyflawnadwy? Ydy'r sgiliau a'r adnoddau angenrheidiol gennych?
P Perthnasol Sut mae'r nod yn alinio â'r nodau ehangach? Pam mae'r canlyniad yn bwysig?
W Wedi'i gyfyngu o ran amser Beth yw'r amserlen ar gyfer cyflawni'r nod?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


4 – Profi Newidiadau

Mae profi yn gam hollbwysig gan ei fod yn eich helpu i ddeall yr hyn sy'n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio. Mae'n bwysig cofio nad yw pob newid yn arwain at welliant. Bydd angen i chi benderfynu beth i'w fesur er mwyn gallu dangos eich bod wedi gwneud gwelliant.

Mae nifer o adnoddau ar gael isod i'ch cefnogi i brofi newidiadau.

 

 

5 – Gweithredu

Rydych chi'n barod i roi newid ar waith ar ôl i chi ei brofi mewn sefyllfaoedd amrywiol ac rydych chi'n hyderus ei fod yn effeithiol ac y bydd yn arwain at welliant. Gallwch fabwysiadu gwahanol ddulliau o roi eich syniad ar waith, gan gynnwys dull 'ewch amdani' neu ddull 'dilyniannol' gam wrth gam. Y naill ffordd neu'r llall, dylech ystyried creu polisïau a gweithdrefnau safonol, mesur i wirio eich bod ar y trywydd iawn ac addysgu'ch timau trwy gynnwys hyfforddiant yn y cyfnod ymsefydlu. Ystyriwch yr effaith y bydd eich newid yn ei chael ar y bobl dan sylw.

Rydym wedi darparu'r adnoddau canlynol i'ch helpu i roi eich newid ar waith.

 

 

6 – Lledaenu

Unwaith y byddwch wedi rhoi newid parhaus ar waith yn llwyddiannus, byddwch am ledaenu'ch newid lle bo'n briodol er budd cymaint o bobl â phosibl.

Bydd angen i chi ystyried addasu eich newid mewn cyd-destun gwahanol os oes angen. Bydd o gymorth os gallwch chi rannu eich taith wella ag eraill, gan esbonio'r manteision ac annog cefnogaeth.

Mae'r offer canlynol ar gael i'ch cefnogi i ledaenu eich gwelliant parhaus a bod o fudd i eraill.

 


3 thema allweddol i'w hystyried drwy gydol eich taith

Mae'n debygol y bydd eich Taith Gwella Ansawdd yn symud yn ôl yn ogystal ag ymlaen. Ar bob cam o'r daith, bydd angen i chi ystyried tair thema:

  1. Arweinyddiaeth a thimau – sut rydych chi'n arwain eich tîm ac yn datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol
  2. Rheoli prosiect a chyfathrebu – sut rydych yn sicrhau bod pawb yn deall y weledigaeth ac yn cydweithio’n effeithiol i’w chyflawni
  3. Mesur – sut rydych yn defnyddio data ac yn deall a yw eich newidiadau yn gweithio

Cewch ragor o arweiniad a gwybodaeth ar wefan Turas.