Neidio i'r prif gynnwy

Datblygiad a Chynnydd Gweithwyr

Datblygiad Gweithwyr

Mae datblygiad gweithwyr yn cyfeirio at y broses o wella sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau gweithwyr drwy hyfforddiant, addysg a chyfleoedd i symud ymlaen mewn gyrfa. Gall hyn gynnwys hyfforddiant yn y gwaith, gweithdai, cyrsiau, mentora, a gweithgareddau eraill a gynlluniwyd i wella perfformiad, meithrin twf proffesiynol, a pharatoi gweithwyr ar gyfer rolau a chyfrifoldebau yn y sefydliad yn y dyfodol.

Mae datblygiad gweithwyr yn hanfodol ar gyfer gyrru llwyddiant sefydliad, cyfrannu at ymgysylltiad a boddhad gweithwyr, a gosod sefydliad fel cyflogwr cystadleuol a dymunol yn y farchnad.

Gall diffyg datblygiad ddigwydd pan fydd gweithiwr yn gweithio mewn amgylchedd nad yw'n cefnogi ei lesiant a'i ddatblygiad parhaus. Mae'r anallu i gael mynediad at hyfforddiant, mentora, hyfforddi ac annog, neu gyfleoedd eraill i ddatblygu yn rhwystro potensial unigolyn i wneud cynnydd.

Felly mae datblygiad gweithwyr yn bwysig am amrywiaeth o resymau:

  • Perfformiad gwell

Mae buddsoddi yn natblygiad gweithwyr yn helpu i wella perfformiad unigolion a thimau. Pan fydd gweithwyr yn caffael sgiliau, gwybodaeth a chymwyseddau newydd, maent yn dod yn fwy effeithiol yn eu rolau, gan arwain at gynhyrchiant uwch a chanlyniadau gwell i'r sefydliad.

  • Cadw staff ac ymgysylltu

Mae darparu cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad yn dangos bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi datblygiad proffesiynol eu gweithwyr. Gall hyn annog ymdeimlad o deyrngarwch ac ymrwymiad ymhlith staff, gan leihau’r cyfraddau trosiant a chadw mwy o weithwyr.

  • Denu talent

Gall pwyslais cryf ar ddatblygiad gweithwyr wneud sefydliad yn fwy deniadol i ddarpar ymgeiswyr. Mae’r rhai sy’n chwilio am waith yn aml yn cael eu denu at gwmnïau sy'n cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu gyrfa, gan wella gallu'r cyflogwr i ddenu'r dalent orau.

  • Cynllunio ar gyfer Olyniaeth

Mae datblygu gweithwyr ar gyfer rolau arwain yn y dyfodol yn hanfodol o ran cynllunio ar gyfer olyniaeth. Trwy fuddsoddi mewn rhaglenni datblygu arweinyddiaeth a meithrin talent yn fewnol, gall cyflogwyr sicrhau bod cronfa o unigolion medrus yn barod i gamu i swyddi allweddol yn ôl yr angen.

  • Arloesi a’r gallu i addasu

Mae dysgu a datblygu parhaus yn creu diwylliant o arloesi a hyblygrwydd o fewn y sefydliad. Mae gweithwyr sy'n cael eu hannog i archwilio syniadau a dulliau newydd yn fwy tebygol o gyfrannu atebion creadigol i heriau ac addasu i amodau cyfnewidiol y farchnad.

  • Boddhad gweithwyr

Gall darparu cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad arwain at lefelau uwch o foddhad mewn swydd a morâl ymhlith gweithwyr. Pan fydd unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu twf proffesiynol, maent yn fwy tebygol o deimlo boddhad a chymhelliant yn eu rolau.

  • Arbedion cost

Gall buddsoddi mewn datblygu gweithwyr arwain at arbedion cost i’r sefydliad yn yr hirdymor. Trwy ddatblygu talent yn fewnol a hyrwyddo o'r tu mewn, gall cyflogwyr leihau costau recriwtio sy'n gysylltiedig â phrosesau recriwtio.

  • Delwedd brand

Gall ymrwymiad i ddatblygiad gweithwyr gryfhau brand sefydliad, a’i wneud yn gyflogwr dymunol o ddewis. Gall canfyddiadau cadarnhaol o ddiwylliant y cwmni a'i fuddsoddiad mewn gweithwyr gryfhau ei ddelwedd brand, ymhlith darpar ymgeiswyr a chwsmeriaid.

Gwneud y cysylltiad â Gwaith Teg


Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo gwaith teg yng Nghymru, gan gydnabod ei rôl hanfodol o ran gwella pob agwedd ar iechyd a llesiant. Mae'r ymrwymiad hwn yn sail i bwysigrwydd cyflogaeth deg, sicr a buddiol wrth feithrin cymdeithas iachach a mwy ffyniannus.

Mae Gwaith Teg yn cwmpasu meysydd amrywiol, fel a ganlyn:

  • Sicrhau gweithle diogel, iach a chynhwysol.
  • Cynnig cyfleoedd i gael mynediad at waith, i dyfu a chamu ymlaen.
  • Darparu gwobrwyo teg.
  • Annog llais gweithwyr a chydgynrychiolaeth.
  • Sicrhau diogelwch a hyblygrwydd mewn cyflogaeth.
  • Parchu hawliau cyfreithiol a’u gorfodi’n effeithiol.

Mae cyfleoedd i gael mynediad at waith, i dyfu a chamu ymlaen yn elfennau hanfodol o waith teg. Mae'r rhain yn galluogi unigolion i ymuno â'r gweithlu, i ffynnu a datblygu ynddo. Mae sicrhau mynediad cyfartal at waith a chyfleoedd yn amddiffyn unigolion rhag gwahaniaethu ar sail rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hil, ethnigrwydd, oedran, anabledd, a nodweddion gwarchodedig eraill.

Mae mynd i'r afael â rhwystrau i gael mynediad at waith a chamu ymlaen yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo gwaith teg. Gall rhai grwpiau, megis y rhai yr effeithir arnynt gan anfantais economaidd-gymdeithasol, demograffeg oedran penodol, ethnigrwydd penodol, unigolion ag anableddau, a gofalwyr, wynebu rhwystrau mwy sylweddol wrth gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth. Mae nodi a mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo cynwysoldeb a thegwch yn y gweithle, gan sicrhau cyfleoedd i ddatblygu i bawb.

Mae hyrwyddo dysgu gydol oes yn cyfrannu at lesiant gweithwyr ac yn ehangu’r cyfleoedd ar gyfer tyfu a chamu ymlaen mewn gyrfa . Gall cymryd rhan mewn hyfforddiant neu gyrsiau addysgol arwain at lesiant gwell, sgiliau ymdopi gwell, mwy o hunan-barch, a mwy o ymdeimlad o bwrpas. Yn ogystal â gwella boddhad swydd a chyfleoedd ar gyfer datblygiad gyrfa, mae'n dod â sgiliau a ffyrdd newydd o feddwl i'r sefydliad.

Pa gamau y gall cyflogwyr eu cymryd?

 

 

Meysydd pwnc cysylltiedig: