Mae'r adran hon yn manylu ar amrywiaeth o wybodaeth, adnoddau a chyngor arferion da pellach y gall cyflogwyr eu defnyddio i ddeall, hyrwyddo a chefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle. Darperir gwybodaeth sylfaenol yn gyntaf ac yna gwybodaeth pwnc-benodol.
Mae gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) ganllawiau ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle, sy’n cynnwys cyngor ar atal gwahaniaethu ac aflonyddu.
Mae'r CIPD yn darparu arweiniad cyffredinol ar arferion recriwtio a mynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu yn y gwaith, ynghyd â thaflenni ffeithiau sy'n mynd i'r afael â phob nodwedd warchodedig.
Elusen gofrestredig sydd â gweledigaeth i helpu i greu cenedl heb ragfarn na gwahaniaethu. Ceir trosolwg o’r maes cydraddoldeb yng Nghymru gan y Comisiwn Cydraddoldeb ac Adnoddau Dynol sy’n cwmpasu agweddau ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n helpu cyflogwyr a busnesau i gynyddu amrywiaeth a lleihau anghydraddoldeb.
Gwybodaeth a chanllawiau ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail oedran a Dyletswydd Cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Cyngor ac arweiniad cyfreithiol am hawliau cyfartal a ddarperir fel rhan o'u mandad i herio gwahaniaethu, ac i amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol.
Mae gwybodaeth am hawliau staff anabl a mamau newydd a darpar famau mewn perthynas â’u nodweddion gwarchodedig ar gael yng nghanllawiau HSE ar gyfer staff anabl a mamau newydd a darpar famau.
National Equality Standard (NES)
Safon amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant fwyaf blaenllaw'r DU. Mae'r NES yn darparu argymhellion a ategir gan gynllun gweithredu, yn seiliedig ar ystorfa o arferion gorau, sy'n manylu ar sut i sicrhau cydymffurfiaeth lawn yn erbyn y naw nodwedd warchodedig gyfreithiol.
Action for Race Equality UK (ARE)
Mae ARE yn hyrwyddo tegwch, herio gwahaniaethu a chynnig atebion arloesol i rymuso pobl ddu, Asiaidd a threftadaeth-gymysg trwy gyfrwng addysg, hyfforddiant a menter.
Sefydlwyd Race Equality First i weithio tuag at yr egwyddor o gydraddoldeb a chreu cymdeithas deg a chyfiawn, ac mae yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau pwrpasol i helpu i fynd i’r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb.
Corff ymbarél cyffredinol a sefydlwyd gan gymunedau lleiafrifoedd ethnig ar lawr gwlad yng Nghymru. Mae’r Cyngor yn cynllunio ac yn darparu rhaglenni, hyfforddiant, digwyddiadau a gweithgareddau allweddol. Y corff ymbarél i sefydliadau yng Nghymru i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.
Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru
Cefnogi lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor ar faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.
Yr awdurdod arbenigol ar gyfer menopos ac iechyd ôl-atgenhedlu yn y DU. Mae'r BMS yn addysgu, yn hysbysu ac yn arwain gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan weithio ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd, ar y menopos a phob agwedd ar iechyd ôl-atgenhedlu.
Cefnogi pobl hŷn ledled Cymru drwy eu tîm Cyngor a Chymorth, sy'n sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn llywio gwaith y Comisiynydd, a bod llunwyr polisïau a phenderfynwyr yn gweithredu ar hynny.
Mae ACAS yn darparu cyngor ac arweiniad penodol ar addasiadau rhesymol.
Llyfryn adnoddau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr awtistig.
Mae'r CIPD yn darparu arweiniad penodol ar niwroamrywiaeth yn y gwaith.
Mae wedi paratoi canllawiau ar gyfer cyflogwyr sy’n esbonio dyletswydd cyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer eu staff.
Anabledd Cymru yw'r gymdeithas genedlaethol o sefydliadau pobl anabl sy'n ymdrechu i sicrhau hawliau a chydraddoldeb pob person anabl.
Llais anabledd dysgu yng Nghymru. Gall Mencap ddarparu gwybodaeth am ddeall hawliau pobl ag anabledd dysgu a sut i'w cefnogi.
Scope yw'r elusen cydraddoldeb anabledd yng Nghymru a Lloegr. Mae Scope yn darparu cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol i bobl drwy eu llinell gymorth, cymuned ar-lein, rhaglenni ymgysylltu â'r gymuned, partneriaethau a mwy.
Mae Llywodraeth y DU yn darparu gwybodaeth am addasiadau rhesymol i weithwyr anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd.
Mae ACAS yn darparu gwybodaeth i gyflogwyr ar reoli effeithiau'r menopos, cefnogi staff trwy'r menopos, siarad â staff am y menopos, a'r menopos a'r gyfraith.
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
Sefydliad sy'n cefnogi dod â gwahaniaethu ar sail rhyw i ben yng Nghymru lle mae gan bob menyw, dyn a pherson anneuaidd awdurdod a chyfle cyfartal i siapio cymdeithas a'u bywydau eu hunain.
Dyma elusen hawliau mamolaeth y DU sy'n ymroi i hyrwyddo, amddiffyn a gwella hawliau pob menyw feichiog, mam newydd a'u teuluoedd i gyflogaeth, nawdd cymdeithasol a gofal iechyd.
Nod Trans Aid Cymru yw helpu pobl Trawsryweddol, Anneuaidd a Rhyngryw drwy gymorth cilyddol.
Darparu cyngor ar arfer gorau i gefnogi staff LHDT+ gan gynnwys trwy eu rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth.
Mae ACAS wedi cynhyrchu podlediadau Saesneg sy'n trafod pynciau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys dathlu bywydau pobl dduon yn y gweithle a sut i gefnogi gweithwyr anabl.
Mae gan CIPD gasgliad o bodlediadau Saesneg ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys LDHT+ yn y gwaith, gweithwyr niwroamrywiol a mynd i’r afael â hiliaeth.
Gall sefydliadau wneud ymrwymiad cyhoeddus i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu gweithle. Mae addewidion yn offeryn defnyddiol wrth ddarparu rhagor o wybodaeth a chryfhau eich dealltwriaeth ar bynciau amrywiol.
Cynllun Hyderus o ran Anabledd – GOV.UK (www.gov.uk)
Dyma gynllun gan lywodraeth San Steffan i annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella'r ffordd maen nhw'n recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl. Fe'i datblygwyd gan gyflogwyr a chynrychiolwyr pobl anabl i'w wneud yn drylwyr ond yn hygyrch, yn enwedig ar gyfer busnesau llai.
Centre for Ageing Better – Age Friendly Employer Pledge
Mae'r addewid hwn ar gyfer cyflogwyr sy’n ymrwymo i werthfawrogi pwysigrwydd gweithwyr hŷn yn y gweithle.
Wellbeing of Women – Menopause Workplace Pledge
Mae Wellbeing of Women yn gofyn i gyflogwyr ymrwymo i weithleoedd mwy cyfeillgar i'r menopos trwy ymrwymo i'w haddewid o weithredu cadarnhaol.
Miscarriage Association – The Pregnancy Loss Pledge
Mae'r Gymdeithas wedi annog cyflogwyr ledled y DU i ymrwymo i gefnogi staff sydd wedi cam-esgor.
Inclusive Employers Standard (IES)
Inclusive Employers yw'r sefydliad aelodaeth cyntaf yn y DU i gefnogi cyflogwyr sydd am greu gweithleoedd mwy cynhwysol. Gall cyflogwyr ddangos eu hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant trwy’r Inclusive Employers Standard. Mae’r angen talu ffi i ymuno â’r cynllun, felly efallai na fydd yn addas i bob sefydliad.
Race Alliance Wales - Maniffesto Cymru Wrth-hiliol
Gallwch addo eich cefnogaeth i Gymru wrth-hiliol drwy gymeradwyo maniffesto Race Alliance Wales. Mae'r Maniffesto’n cyflwyno llwybr ar gyfer sicrhau cydraddoldeb hiliol ac mae'n ymdrin â meysydd allweddol fel cyflogaeth a chynrychiolaeth.
Mae'r canlynol yn ddyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol yn ystod y flwyddyn. Gall yr ymgyrchoedd hyn fod yn 'begiau' defnyddiol ar gyfer gweithgareddau yn y gweithle a chodi ymwybyddiaeth, ac maent yn darparu adnoddau da yn aml i gyflogwyr eu defnyddio gyda'u staff.
Mis | Ymgyrch |
Chwefror |
Mae Diwrnod Amser i Siarad yn digwydd ar ddydd Iau cyntaf Chwefror Cynhelir Mis Hanes LHDTC yn ystod mis Chwefror |
Mawrth |
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth Dethlir Diwrnod Rhyngwladol Dathlu Trawsrywedd ar 31 Mawrth yn flynyddol |
Mai | Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 15 a 21 Mai |
Mehefin |
Mae Diwrnod Windrush yn cael ei nodi ar 22 Mehefin Cynhelir Wythnos Anableddau Dysgu ym mis Mehefin Diwrnod Balchder Awtistig yw 18 Mehefin |
Awst | Cynhelir Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd ym mis Awst |
Medi |
Mae Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi Cynhelir Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn ystod wythnos olaf mis Medi |
Hydref |
Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn cael ei gynnal ym mis Hydref yn flynyddol Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn cael ei nodi ar 1 Hydref Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref Cynhelir Wythnos Genedlaethol Bywyd a Gwaith yn ystod mis Hydref Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Menopos ar 18 Hydref Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod ym mis Hydref Mae mis ymwybyddiaeth ADHD hefyd yn digwydd ym mis Hydref |
Tachwedd |
Mae Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen yn cael ei nodi ar 2 Tachwedd Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod ar 25 Tachwedd Mae Mis Anabledd y DU yn rhedeg o fis Tachwedd i fis Rhagfyr bob blwyddyn Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia yw mis Tachwedd Diwrnod y Rhuban Gwyn yw 25 Tachwedd |
Rhagfyr | Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr |