Neidio i'r prif gynnwy

Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn.

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, bydd yn gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Mae hefyd yn gymwys i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n rheoli gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu'r gwaith hwn.

Pa wastraff sydd angen ei wahanu

Bydd angen gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu ar wahân:

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metelau, plastig a chartonau
  • Tecstilau sydd heb eu gwerthu
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE)

Bydd gwaharddiad hefyd ar:

  • Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
  • Gwastraff a gesglir ar wahân sy'n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
  • Pob gwastraff pren sy'n mynd i safleoedd tirlenwi

I bwy mae'r gyfraith yn berthnasol

Bydd angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Safleoedd amaethyddol
  • Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Meysydd sioe
  • Gorsafoedd gwasanaeth a gorsafoedd petrol
  • Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
  • Trafnidiaeth - gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
  • Cartrefi gofal a nyrsio
  • Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd, a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
  • Safleoedd adeiladu
  • Ffatrïoedd a warysau
  • Garejis ceir
  • Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Canolfannau garddio
  • Adeiladau treftadaeth
  • Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Swyddfeydd a gweithdai
  • Mannau addoli
  • Carchardai
  • Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored

Yr unig weithle sydd â dwy flynedd ychwanegol i gydymffurfio yw ysbytai'r GIG ac ysbytai preifat.

 

Darganfod mwy

 

Gwybodaeth Ychwanegol