Dengys yr astudiaeth hon y gallwn gyfuno data awdurdodau lleol â data a gesglir yn rheolaidd drwy gofnodion iechyd electronig (EHR) a ffynonellau data gofal iechyd gweinyddol i gael gwell dealltwriaeth o ofalwyr di-dâl mewn ardaloedd daearyddol penodol. Mae hyn hefyd yn ein helpu i weld sut y gall gwybodaeth o wahanol sectorau, fel gofal iechyd a llywodraeth leol, orgyffwrdd a chydweithio i gael darlun cliriach.
Mae'r dosbarthiad demograffig yn cyfateb yn bennaf i'r hyn sy'n hysbys eisoes: mae gofalwyr di-dâl yn tueddu i fod yn hŷn ac yn fenywaidd o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol. Fodd bynnag, canfu’r astudiaeth fod llai o ofalwyr di-dâl yn byw mewn ardaloedd sy'n cynnwys lefelau uchel iawn o amddifadedd na’r hyn a awgrymwyd yng Nghyfrifiad 2021.
Roedd gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr awdurdodau lleol yn hŷn na’r rhai a nodwyd gan bractisau cyffredinol, sy’n awgrymu bod ffynonellau data awdurdodau lleol a phractisau cyffredinol yn cofnodi poblogaethau a chanddynt ddemograffeg wahanol.
Roedd iechyd gofalwyr di-dâl yn waeth ac roeddent yn defnyddio mwy ar wasanaethau iechyd na grwpiau cymhariaeth y rhai nad ydynt yn ofalwyr.
Er bod cyfraddau amlafiacheddau a'r defnydd o wasanaethau iechyd yn uwch ymhlith gofalwyr di-dâl a nodwyd gan yr awdurdodau lleol nag ar gyfer gofalwyr di-dâl a nodwyd gan bractisau cyffredinol, gwahaniaethau oedran oedd yn bennaf cyfrifol am y gwahaniaethau hyn.
Gall gwahaniaethau yn y carfannau o ofalwyr di-dâl a nodwyd drwy asesiad gofalwyr a ffynonellau data gofal sylfaenol ddeillio o anghenion penodol y boblogaeth a'r lefelau cymorth sydd eu hangen. Gallai hyn ddangos bod gwasanaethau’n cyrraedd y rhai sydd eu hangen, neu gall ddangos bwlch yn y cymorth i ofalwyr di-dâl iau. Nid oes modd dod i gasgliad ar ddosbarthiad adnoddau yng nghyd-destun anghenion y boblogaeth heb ddata ychwanegol.
Gall y gwahaniaethau hefyd adlewyrchu gwahaniaethau systemig o ran casglu data, cwmpas ac ansawdd rhwng asesiadau gofalwyr a ffynonellau data gofal sylfaenol. Cofnodir y ddau fath o ddata at ddibenion gweinyddol, nid er mwyn adnabod gofalwyr di-dâl. Ym maes gofal sylfaenol, gall codio gofalwyr di-dâl amrywio yn seiliedig ar gyd-destun yr ymgynghoriad a rhwng meddygon teulu a phractisau, a gall fod yn ofynnol i awdurdodau lleol flaenoriaethu achosion brys i’w hasesu, sydd o bosibl yn golygu bod eu data yn gwyro mwy tuag at ofalwyr di-dâl hŷn sy'n fwy agored i niwed.
Mae'n anodd, drwy ddata a gesglir yn rheolaidd, nodi gofalwyr di-dâl er mwyn bod yn sail i gynlluniau i gefnogi gofalwyr di-dâl. Mae hyn yn awgrymu bod angen system fwy integredig ar gyfer cefnogi gofalwyr di-dâl i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.