Ein nod yw bod yn sefydliad dysgu a datblygu eithriadol sy'n trawsnewid iechyd cyhoeddus drwy ganolbwyntio ar ymchwil a gwerthuso a fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth i ymarfer. Mae ein hegwyddorion ymchwil a gwerthuso fel a ganlyn:
- Yn agored yn ddiofyn: Datblygu a rhannu meysydd o ddiddordeb ymchwil, cyhoeddi allbynnau wedi'u targedu at anghenion y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau, a bod yn glir ynghylch yr hyn rydym yn ei arwain neu ei gefnogi.
- Cynhwysol: Cynllunio dulliau ac atebion gyda chymunedau wrth weithio gyda nhw, casglu a gwerthuso gwybodaeth am gydraddoldebau, a gweithio gyda chymunedau i gynnwys y rhai nad ydynt yn ymddiried ynom.
- Amlddisgyblaethol: Dathlu amrywiaeth ein gwaith a chyfuno'r sgiliau a'r arbenigedd amrywiol sydd ei angen arnom, gan arwain at fodel ar y cyd o ymchwil a gwerthuso.
- Dylanwadol: Arwain ein cyllidwyr i fynd i'r afael â bylchau mewn tystiolaeth, ymchwil a gwerthuso sydd eu hangen i'n helpu i gyflawni ein nodau iechyd.
- Cydgysylltiedig: Sicrhau bod gennym safonau a rennir ar gyfer cynnyrch a phecyn clir a chynhwysfawr o ymchwil, a'n bod yn gweithio gydag eraill i ddarparu ein gwasanaethau.