Ers 30 Mai 2019, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ddarostyngedig i Hysbysiad Cydymffurfio Safonau’r Gymraeg a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae’r Hysbysiad Cydymffurfio’n cynnwys pedwar dosbarth o Safonau:
- Safonau Darparu Gwasanaeth - eu bwriad yw hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau a sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg
- Safonau Llunio Polisi – rhaid i swyddogion ystyried pa effaith y bydd eu penderfyniadau yn ei gael ar allu pobl i ddefnyddio'r iaith ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- Safonau Gweithredu - mae'r safonau yma yn ymdrin â'r defnydd o'r Gymraeg yn fewnol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn hyrwyddo'r cysyniad o weithle dwyieithog, gan roi rhai hawliau ieithyddol i’n gweithwyr wrth iddynt dderbyn eu gwasanaeth Adnoddau Dynol.
- Safonau Cadw cofnodion - mae'r safonau yma yn delio gyda systemau cadw data a chofnodion am rai o'r safonau eraill.
Adroddiadau Blynyddol
Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar ein cyflawniadau yn erbyn Safonau’r Gymraeg ers 2019-20.
Pryderon Iaith
Os hoffech wneud cwyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru â Safonau'r Gymraeg, defnyddiwch ein gweithdrefn gwyno ar y dudalen Cwynion ar ein gwefan.
Mae gennych hefyd hawl i gyfeirio unrhyw bryderon sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg at Gomisiynydd y Gymraeg: Gwefan Comisiynydd y Gymraeg.
Hysbysiad Cydymffurfio Iechyd Cyhoeddus Cymru
Public Health Wales Compliance Notice
Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018