20-26 Tachwedd 2023
Mae Wythnos Profi HIV Cymru yn ymgyrch flynyddol sy'n annog pobl yng Nghymru i gael prawf am HIV.
Am wythnos ym mis Tachwedd, mae unigolion, cymunedau a sefydliadau yn dod at ei gilydd i hyrwyddo manteision profion rheolaidd.
Ar hyn o bryd, gallwch nodi Wythnos Profi HIV Cymru yn eich dyddiadur ar gyfer 20-26 Tachwedd 2023. Gallwch hefyd annog y bobl rydych yn gweithio gyda nhw i wneud yr un peth.
Yna cadwch lygad am ein hadnoddau ymgyrch. Byddwn yn darparu cynnwys cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys delweddau, fideos a thestun, ac adnoddau eraill i'ch helpu i hyrwyddo profion yn eich ardal leol. Gallwch addasu'r negeseuon hyn fel eu bod yn dal sylw eich cymuned.
Gyda thriniaeth, gall pobl sy'n byw gyda HIV fyw mor hir ac iach ag unrhyw un arall. Mae triniaeth hefyd yn eich atal rhag trosglwyddo'r feirws i eraill.
Ond ni allwch gael eich trin os na chewch eich profi.
Cael eich profi yw'r unig ffordd o wybod a oes gennych HIV – ac ni fu erioed yn haws.
Yng Nghymru, gall unrhyw un archebu pecyn prawf cartref cyfrinachol am ddim.
Drwy annog pobl i brofi, gallwn helpu i atal HIV.
Gallwn helpu i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda HIV yn gwybod eu statws a chael y driniaeth sydd ei hangen arnynt. Bydd hyn hefyd yn atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo i unrhyw un arall.
Mae profi ehangach yn rhan bwysig o gynllun Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar achosion newydd o HIV erbyn 2030. Gallwn i gyd chwarae rhan wrth gyflawni'r nod hanesyddol hwn.
Gall unrhyw un yng Nghymru archebu pecyn prawf cartref cyfrinachol am ddim ar-lein
Mae'r prawf yn gyflym ac yn hawdd i'w ddefnyddio, a gallwch ei gael wedi'i anfon i gyfeiriad o'ch dewis
Cael eich profi am HIV yw'r cam cyntaf i ddiogelu eich hun ac eraill
Gyda thriniaeth, gall pobl â HIV fyw mor hir ag unrhyw un arall, ond ni allwch gael eich trin os nad ydych yn gwybod eich statws
Po gynharaf y byddwch yn dechrau triniaeth, y lleiaf tebygol yr ydych o fynd yn ddifrifol wael
Gall cael diagnosis hwyr achosi niwed parhaol i'ch iechyd
Gall unrhyw un gael HIV. Cael eich profi am HIV yw'r cam cyntaf i ddiogelu eich hun ac eraill.
Os oes gennych HIV, mae darganfod hynny yn golygu y gallwch ddechrau triniaeth, cadw'n iach ac osgoi trosglwyddo'r feirws i unrhyw un arall.
Po gynharaf y byddwch yn dechrau triniaeth, y lleiaf tebygol yr ydych o fynd yn ddifrifol wael.