Er ein bod yn deall bod rhieni yn debygol o boeni am yr adroddiadau y maent yn eu gweld mewn perthynas ag iGAS, mae achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau'n brin yng Nghymru, ac mae plant yn wynebu risg isel iawn o ddal y clefyd.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae haint streptococol A yn achosi'r dwymyn goch, salwch ysgafn fel arfer.
Mae symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw yn gyffredin iawn ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig mewn plant. Bydd y rhan fwyaf yn cael feirws tymhorol cyffredin y gellir ei drin drwy sicrhau bod y plentyn yn yfed digon, a'i drin â pharasetamol.
Efallai y bydd rhai plant sydd â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw - dolur gwddf, cur pen, twymyn - yn profi rhai o symptomau cynnar y dwymyn goch, sydd hefyd yn mynd ar led ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Bydd y plant hyn yn mynd ymlaen i ddatblygu symptomau penodol i'r dwymyn goch, gan gynnwys brech binc-goch fân sy'n teimlo fel papur tywod wrth ei chyffwrdd, a dylai rhieni gysylltu â'u meddyg teulu.
Er bod y dwymyn goch yn peri mwy o bryder, mae'n dal i fod yn salwch eithaf ysgafn a bydd y rhan fwyaf o blant yn gwella ohono heb gymhlethdodau, yn enwedig os yw'r cyflwr yn cael ei drin yn iawn gyda gwrthfiotigau.
Mewn achosion prin iawn, gall haint streptococol grŵp A achosi iGAS, sef cymhlethdod prin sy'n effeithio ar lai nag 20 o blant yng Nghymru bob blwyddyn. Er bod iGAS yn gyflwr sy'n peri pryder, bydd y mwyafrif o'r plant hyn yn gwella gyda thriniaeth briodol.
Y peth gorau y gall rhieni ei wneud yw darparu'r gofal y byddent fel arfer yn ei ddarparu i blentyn â symptomau annwyd a thebyg i'r ffliw, ond i ymgyfarwyddo â symptomau'r dwymyn goch ac iGAS fel rhagofal.