Neidio i'r cynnwys

Newid iaith y wefan

Rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf

Dull iechyd cyhoeddus o gefnogi rhieni

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio sut y gall rhieni, cymunedau a’r gymdeithas ehangach weithio gyda’i gilydd i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant yng Nghymru.

Mae’n tynnu sylw at y rôl ganolog sydd gan rieni wrth lunio bywydau eu plant yn y 1000 diwrnod cyntaf a sut mae gan gamau gweithredu i gefnogi rhieni i ffynnu yn eu rôl magu plant y potensial i dorri cylchoedd o anfantais rhwng y cenedlaethau a chefnogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Ynglŷn â’r rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf

Mae’r 1000 Diwrnod Cyntaf yn rhaglen gwella iechyd dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd ei sefydlu mewn ymateb i dystiolaeth gref sy’n awgrymu bod y cyfnod yn ystod beichiogrwydd a hyd at ben-blwydd y plentyn yn ddwy oed yn cynnig y potensial mwyaf ar gyfer cael effaith o ran gwella canlyniadau a lleihau anghydraddoldebau.

Un o nodau allweddol y rhaglen yw cefnogi’r system i ddeall y dystiolaeth orau sydd ar gael a gweithredu arni.

Datblygu dull iechyd cyhoeddus o gefnogi rhieni

Mae’r adroddiad yn dwyn ynghyd y theori, y dystiolaeth ymchwil a’r ddealltwriaeth bresennol o brofiad rhieni a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru a gynhaliwyd rhwng 2018 a 2022.

Roedd y gwaith sylfaenol yn cynnwys:

  • Datblygu theori
  • 2 Adolygiad tystiolaeth – ffactorau risg ac amddiffynnol
  • Dealltwriaeth Rhieni. 2 astudiaeth
    • Grwpiau ffocws, cyfweliadau manwl mewn parau ac unigol â 141 o rieni.
    • Grwpiau ffocws gyda 38 o rieni
  • Dealltwriaeth broffesiynol – 2 astudiaeth.
    • Grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl dros y ffôn. 70 o weithwyr proffesiynol gan gynnwys ymwelwyr iechyd, bydwragedd a staff prifysgolion.
    • 35 o gyfweliadau manwl â gweithwyr proffesiynol neu ymarferwyr magu plant.

Ceir rhagor o fanylion yn yr adroddiad technegol.

Negeseuon allweddol

Mae magu plant yn bwysig ar gyfer llesiant plant nawr ac yn y dyfodol.

Yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf mae rhieni yn ganolog i fywydau plant; maent yn llunio profiadau plant a’u rhyngweithio â’r byd. Mae magu plant hyderus, cydnerth a chadarnhaol yn gysylltiedig â gwell iechyd, llesiant a dysgu i blant yn awr ac i’w dyfodol. Mae gan gamau gweithredu i gefnogi rhieni i ffynnu yn eu rôl magu plant y potensial i dorri cylchoedd o anfantais rhwng y cenedlaethau a chefnogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Mae rhieni am wneud y gorau dros eu plant ond mae amgylchiadau’n golygu ei bod yn anoddach i rai rhieni nag eraill.

Nid yw magu plant yn hawdd. Mae’n anoddach os nad oes gennych y pethau sydd eu hangen arnoch ac rydych yn poeni’n gyson am gael dau ben llinyn ynghyd. Mae’r rhain yn wahaniaethau annheg o ran yr adnoddau a’r cymorth sydd gan rieni a’r amgylchiadau sy’n eu hwynebu. Mae gwybodaeth a sgiliau magu plant yn chwarae rhan ond, i gefnogi rhieni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn, mae angen gweithredu ar draws y system.

Gellir gwneud mwy i helpu i greu’r amodau i deuluoedd yng Nghymru ffynnu.

Mae’r lleoedd y mae rhieni yn byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu ynddynt yn dylanwadu ar fagu plant mewn dwy ffordd. Maent yn dylanwadu ar sut y mae rhieni yn meddwl ac yn teimlo, a’r hyn y gallant ei wneud. Mae cymdeithas sy’n cefnogi magu plant yn cynnig gwaith teg; cartrefi sy’n ddiogel ac yn gynnes; trafnidiaeth fforddiadwy; cymunedau cryf; a mynediad hawdd at wasanaethau cefnogol pan fydd eu hangen.

Mae cymorth iechyd meddwl a chymdeithasol da yn gweithredu fel mesurau amddiffyn, gan helpu rhieni i reoli heriau a lleihau’r effaith ar eu plant.

Bydd pob teulu yn wynebu cyfnodau anodd ac ni fydd bob amser yn bosibl mynd i’r afael â’r achos sylfaenol ar unwaith. Mae teuluoedd yn aml yn teimlo effaith argyfyngau economaidd ac amgylcheddol sydd y tu hwnt i reolaeth un sefydliad. Mae camau gweithredu i wella llesiant meddyliol a rhwydweithiau cymorth rhieni yn darparu llwybr i leihau effaith ffactorau strwythurol ehangach ar iechyd, llesiant a dysgu plant. Mae ymyriadau sy’n ystyried teimladau rhieni, yr adnoddau sydd eu hangen arnynt, a’u rhwydweithiau cymdeithasol yn fwy tebygol o gefnogi magu plant yn effeithiol.

Lawrlwythwch ein hanimeiddiad yma:

1000 Diwrnod Cyntaf animeiddiad – Gydag isdeitlau.

1000 Diwrnod Cyntaf animeiddiad – Dim isdeitlau.

Adnoddau