Disgrifiad: Dyma gwrs e-ddysgu rhyngweithiol ar imiwneiddio, sydd wedi’i ysgrifennu'n unol â’r safonau gofynnol cenedlaethol diwygiedig ar gyfer hyfforddiant. Mae’n cynnwys saith sesiwn wybodaeth gydag asesiadau i gyd-fynd â nhw. Mae’r cwrs ar gael i bob ymarferydd gofal iechyd sy’n ymwneud ag imiwneiddio. Argymhellir eich bod yn cael mentor cyn cofrestru ar y cwrs.
Os ydy'r gwaith o imiwneiddio pobl yn newydd i chi, argymhellir eich bod yn cwblhau asesiad cymhwysedd gyda’ch mentor. Cliciwch yma i weld teclyn fframwaith cymhwysedd sydd wedi cael ei greu gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Public Health England.
Addas ar gyfer: Pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â’r broses imiwneiddio yn unrhyw gyd-destun, boed hynny’n roi brechiad i bobl neu gynghori ynghylch brechu ac imiwneiddio.
Hyd: Isafswm o 10 awr
Cofrestru:
Mae posib i staff GIG Cymru gael mynediad at y modiwl (000 Rhaglen Imiwneiddio GIG Cymru) drwy’r ESR.
Ar yr ESR, mae’r Rhaglen Imiwneiddio i’w gweld yn y Catalog Cyrsiau o dan y categori Gwybodaeth a Sgiliau Galwedigaethol. Fe welwch chi’r Rhaglen Imiwneiddio o dan yr is-gategori Llwybrau Dysgu.
I gael rhagor o gyngor, cliciwch yma.
I staff nad oes ganddynt fynediad at ESR, neu nad ydynt yn gweithio o fewn GIG Cymru, gellir cael mynediad at y modiwl drwy wefan e-Learning for Healthcare. I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs yma, cliciwch yma.