Neidio i'r prif gynnwy

Brechiadau COVID-19

Rhaglen frechu COVID-19

Disgrifiad: Mae rhaglen e-ddysgu Brechiadau COVID-19 yn cynnwys modiwl gwybodaeth graidd a modiwl sy'n canolbwyntio'n benodol ar frechlynnau, gyda modiwlau asesu'n cyd-fynd â nhw. Dylai pawb sy'n dilyn y rhaglen e-ddysgu hon gwblhau’r modiwl gwybodaeth graidd er mwyn cael gwybodaeth hanfodol am COVID-19 ac am y prif egwyddorion imiwneiddio sydd eu hangen i roi’r brechlyn. Yna dylai’r dysgwyr gwblhau'r modiwl(au) sy'n canolbwyntio'n benodol ar frechlynnau ar gyfer y brechlyn neu'r brechlynnau y byddan nhw'n eu rhoi, gan fod y rhain yn rhoi gwybodaeth fanylach amdanynt. Dylid cwblhau'r modiwlau asesu ar ôl pob modiwl.

Bydd rhagor o fodiwlau sy'n canolbwyntio'n benodol ar frechlynnau’n cael eu hychwanegu pan fydd rhagor o frechlynnau COVID-19 ar gael ac wedi’u hawdurdodi i’w cyflenwi yn y DU.

Bydd y rheini sydd heb roi brechiadau o’r blaen, neu sydd heb wneud hynny ers talwm, hefyd yn gorfod dilyn hyfforddiant ymarferol wyneb-yn-wyneb ar roi brechiadau, a chael asesiad a chadarnhad eu bod yn gymwys cyn y cânt roi brechiadau COVID-19. Dylai'r rheini sy'n rhoi brechiadau fod wedi cwblhau hyfforddiant Cynnal Bywyd Sylfaenol a hyfforddiant anaffylacsis hefyd, yn ogystal ag unrhyw hyfforddiant Statudol a Mandadol sy'n ofynnol gan eu cyflogwr.

Teclyn asesu cymhwysedd brechwyr COVID-19

Cofrestru: Bydd staff GIG Cymru yn gallu cael mynediad at y modiwl drwy’r  ESR. I gael rhagor o arweiniad ar sut i gael mynediad at y cwrs, cliciwch yma.

I’r rheini nad oes ganddynt fynediad at ESR, neu nad ydynt yn gweithio o fewn GIG Cymru, bydd y modiwl ar gael o Dysgu@Cymru. Bydd dolen fydd yn mynd â chi’n syth i’r modiwl ar gael ar y llwyfan hwn.