Prin iawn yw'r bobl na allant gael brechlyn ffliw.
Ni ddylai pobl sydd wedi cael adwaith alergaidd difrifol i frechlyn ffliw (neu unrhyw ran ohono) yn flaenorol gael y brechlyn hwnnw eto.
Dywedwch wrth y nyrs neu'r meddyg os oes gennych alergedd difrifol i wyau. Gallwch gael brechlyn ffliw o hyd ond efallai y bydd angen trefniadau arbennig.
Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio brechu rhag y ffliw.
Os ydych yn sâl gyda thymheredd uchel, gohiriwch y brechiad nes i chi deimlo'n well.