Neidio i'r prif gynnwy

Brechlynnau sy'n cynnwys y Frech Goch, Clwy'r Pennau, Rwbela a Varicella (brech yr ieir) (MMRV ac MMR) – Gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol

Mae rhai o'r dolenni sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw’r cynnwys hwn ar gael yn Gymraeg.  

 

Ar y dudalen hon 

 

Cefndir 

Beth sy’n newydd yn 2026?  

Cyflwyno rhaglen brechu rhag varicella (MMRV) reolaidd ar gyfer babanod a phlant bach: 

Mae varicella (brech yr ieir) yn glefyd heintus iawn a achosir gan y feirws varicella zoster sy'n digwydd amlaf mewn plant ifanc. Mae varicella fel arfer yn ymddangos gyda brech goslyd, bothellog, sy’n dilyn twymyn ac anhwylder. Mae'r rhan fwyaf o achosion mewn plant yn ysgafn ac yn hunangyfyngedig. Fodd bynnag, mae rhai plant yn datblygu cymhlethdodau, gan gynnwys haint bacteriol o friwiau croen (gan gynnwys streptococws grŵp A) ac mewn achosion prin, enseffalitis, niwmonitis a strôc. Gall y cymhlethdodau hyn arwain at arhosiad yn yr ysbyty ac yn anaml iawn, gallant arwain at farwolaeth. 

Mae gwir raddau’r arosiadau yn yr ysbyty a achosir gan varicella wedi’u tanamcangyfrif trwy ffynonellau data arferol oherwydd gwallau codio. Mae llawer o dderbyniadau i’r ysbyty oherwydd cymhlethdodau eilaidd na chânt eu cofnodi fel derbyniad i'r ysbyty sy'n gysylltiedig â varicella. Efallai y bydd cymhlethdodau ychwanegol sy'n cael eu deall yn llai hefyd yn cael eu colli yn y data cyfredol. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol, sy’n cynghori llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â brechu ac imiwneiddio. Adolygodd JCVI dystiolaeth o ddata rhaglenni varicella rhyngwladol, modelu cost-effeithiolrwydd, a baich y clefyd yn y DU. Maent wedi argymell cyflwyno rhaglen brechu reolaidd rhag varicella yn y DU a fydd yn dechrau ar 1 Ionawr 2026. Y brechlyn a ddefnyddir yw MMRV, sy'n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau, rwbela, a varicella (brech yr ieir).  

Mae rhaglen dal i fyny MMRV ddetholus ar gyfer plant hŷn i helpu i gyflymu rheolaeth ac i leihau trosglwyddiad pellach yn y boblogaeth. Bydd plant yn cael eu gwahodd a'u hannog i gael eu brechu os nad ydyn nhw wedi cael brechlyn rhag brech yr ieir, na’r clefyd ei hun, eto. 

Fel y dangoswyd mewn gwledydd eraill sy'n cynnwys brechlyn rhag varicella yn eu hamserlen frechu reolaidd, rhagwelir y bydd amserlen MMRV dau ddos ​​​​yn lleihau nifer yr achosion o haint varicella a welir mewn plant yn sylweddol. Bydd y rhaglen yn atal achosion difrifol, a chymhlethdodau difrifol eraill sy'n gysylltiedig â varicella, er eu bod yn anghyffredin, a allai fod wedi arwain at arhosiad yn yr ysbyty neu ganlyniadau difrifol eraill fel arall. 

  • Mae'r brechlyn MMRV yn helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir. 

  • Mae'r brechlyn MMR yn helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.  

O 1 Ionawr 2026 ymlaen, mae'r brechlyn MMRV yn disodli'r brechlyn MMR yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru. 

 

Pryd y dylid rhoi’r brechlynnau? 

O 1 Ionawr 2026: 

Brechiadau rheolaidd 
  • Rhoddir y dos cyntaf o MMRV i fabanod yn 12 mis oed a'r ail ddos ​​yn 18 mis oed

  • Mae'r ymweliad yn 18 mis oed yn apwyntiad brechu newydd. Yn ystod yr ymweliad hwn, rhoddir pedwerydd dos o'r brechlyn amlfalent 6-mewn-1 (diftheria, tetanws, y pas, polio, Hib, a hepatitis B) hefyd. 

Brechiadau dal i fyny rhag brech yr ieir ar gyfer plant cymwys 

Mae rhaglen dal i fyny MMRV ddetholus ar gyfer plant hŷn yn hŷn na 3 blwydd a 4 mis oed i ychydig o dan 6 oed ar 1 Ionawr 2026 (DYDDIAD GENI: 01.01.2020 – 31.08.2022) ) i helpu i gyflymu rheolaeth ac i leihau trosglwyddiad brech yr ieir ymhellach yn y boblogaeth. Bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2028. 

I gael manylion ar y garfan dal i fyny ddetholus (mwy na 3 blwydd 4 mis oed i lai na 6 blwydd oed), gweler y canlynol: 

**Cwestiynau Cyffredin - Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd** 

 

Brechiadau anarferol 

Nid yw'r brechlyn MMR ar gael mwyach ar gyfer rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant y GIG o 1 Ionawr 2026 ymlaen. 

Mae'r brechlyn MMR yn dal i fod ar gael i'w roi y tu allan i'r rhaglen imiwneiddio reolaidd i blant ar gyfer y bobl sydd ei angen. Mae hyn yn cynnwys plant hŷn ac oedolion nad ydynt wedi cael dau ddos ​​o MMR ac nad ydynt yn gymwys i gael MMRV. 

Am fanylion brechiadau nad ydynt yn rhai rheolaidd, gweler y canlynol:  

**Cwestiynau Cyffredin - Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd** 

 

I wirio cymhwysedd ac amseriad ar gyfer brechlynnau MMRV ac MMR, defnyddiwch yr Offeryn Cymhwysedd MMRV sydd ar gael yn: 
icc.gig.cymru/OfferynCymhwyseddMMRV 
Newidiadau i'r drefn imiwneiddio i blant - Gwybodaeth i weithwyr iechyd 
Am fanylion yr amserlen imiwneiddio reolaidd yng Nghymru, ewch i:  
Amserlenni imiwneiddio oriau i Gymru 

 

Y clefydau 

Mae'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela yn glefydau hysbysadwy yng Nghymru.  

 

Y frech goch  

Mae'r frech goch yn un o'r clefydau trosglwyddadwy mwyaf heintus. Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu drwy drosglwyddiad drwy’r awyr neu drwy ddefnynnau. Mae ganddo gyfnod magu o oddeutu deg diwrnod.   

Mae'r frech goch yn cael ei hachosi gan morbilifeirws sy’n perthyn i’r teulu paramycsofeirws. Nodweddir y cyfnod rhagarwyddol gan dwymyn yn dechrau, anhwylder, annwyd, llid yr amrannau a pheswch. Mae'r frech yn dechrau ar y pen, ac yna’n lledaenu i'r trwnc a'r aelodau dros gyfnod o dri i bedwar diwrnod.  

Gall smotiau Koplik (smotiau bach coch gyda chanol glas/gwyn) ymddangos ar bilenni mwcaidd y geg un i ddau ddiwrnod cyn i'r frech ymddangos.   

Mae unigolion yn heintus o ddechrau'r cyfnod rhagarwyddol (pan fydd y symptom cyntaf yn ymddangos) hyd at bedwar diwrnod ar ôl ymddangosiad y frech.   

Mae'r nodweddion canlynol yn arwyddion cryf bod y frech goch ar unigolyn:   

  • brech sy’n para am o leiaf dri diwrnod   

  • twymyn sy’n para am o leiaf diwrnod, ac   

  • o leiaf un o'r symptomau canlynol – peswch, annwyd neu lid yr amrannau.  

 Clwy'r pennau  

Mae clwy'r pennau yn salwch feirysol acíwt sy’n cael ei achosi gan baramycsofeirws, sy’n cael ei nodweddu gan chwydd yn y chwarennau parotid. Gall symptomau fel twymyn, cur pen/pen tost, anhwylder, myalgia a diffyg archwaeth ymddangos hefyd. Mae achosion asymptomatig yn gyffredin mewn plant.   

Mae clwy'r pennau yn lledaenu trwy drosglwyddiad trwy’r awyr neu drwy ddefnynnau. Mae ganddo gyfnod magu o oddeutu 17 diwrnod. Mae pobl yn heintus o ychydig ddyddiau cyn i’r chwydd ddechrau yn y chwarennau parotid ac am ychydig ddyddiau wedi hynny.  

Mae feirws clwy'r pennau yn aml yn effeithio ar y system nerfol. Gall cymhlethdodau niwrolegol ddigwydd, yn cynnwys llid yr ymennydd ac enseffalitis.   

Mae cymhlethdodau cyffredin yn cynnwys pancreatitis, öofforitis, ac orcitis. Mae byddardod synwyrnerfol, neffritis, cymalwst, annormaleddau cardiaidd, ac yn anaml, farwolaeth, wedi cael eu hadrodd.  

 Rwbela  

Mae rwbela yn cael ei achosi gan togafeirws. Gall ddechrau gyda symptomau amhenodol fel twymyn gradd isel, anhwylder, annwyd, a llid yr amrannau ysgafn. Mae'r frech fel arfer yn para am gyfnod byr, ac i’w weld y tu ôl i'r clustiau, ar yr wyneb ac ar y gwddf. Gall diagnosis clinigol fod yn annibynadwy oherwydd natur fyrhoedlog y frech.  

Mae rwbela yn lledaenu trwy ddefnynnau anadlol. Mae ganddo gyfnod magu o 14 i 21 diwrnod.   

Mae cymhlethdodau'n cynnwys lefel isel o blatennau yn y gwaed (thrombocytopenia) ac enseffalitis ar ôl yr haint. Gall arthritis ac arthralgia ddigwydd mewn oedolion.  

Gall haint rwbela yn ystod beichiogrwydd arwain at golli’r ffetws neu Syndrom Rwbela Cynhenid ​​(CRS), sy'n gallu achosi cataractau, byddardod, annormaleddau cardiaidd, microceffali, arafwch twf, a briwiau llidiol. Gall haint yn ystod wyth i ddeg wythnos gyntaf beichiogrwydd achosi niwed mewn hyd at 90% o fabanod sy'n goroesi, gan arwain yn aml at nifer o namau.  

Brech yr ieir 

Mae varicella (brech yr ieir) yn glefyd acíwt, heintus iawn a achosir gan y feirws varicella zoster. Mae varicella yn lledaenu trwy gyswllt uniongyrchol neu ddefnynnau, gyda chyfnod magu o un i dair wythnos. 

Gall twymyn ysgafn a theimlad o anhwylder ddigwydd cyn y frech, sy'n dechrau ar yr wyneb a chroen y pen, gan ledaenu i'r trwnc a'r abdomen. Mae'r frech yn para am dri i bedwar diwrnod, yna'n sychu'n grachod, a gall fod yn wasgarog neu'n doreithiog.  

Mae varicella yn fwy difrifol mewn babanod ifanc iawn, oedolion, menywod beichiog (sy'n effeithio ar y fam a'r ffetws), ac oedolion imiwnoataliedig. 

Ond mae’r rhan fwyaf o achosion varicella (brech yr ieir) mewn plant yn ysgafn ac yn gwella heb driniaeth feddygol. Mae rhai plant yn datblygu cymhlethdodau, fel heintiau croen bacteriol, enseffalitis, niwmonitis, a strôc, a allai arwain at arhosiad yn yr ysbyty neu, yn anaml, marwolaeth. 

Mae data'n dangos bod heintiau varicella difrifol yn aml yn arwain at gymhlethdodau sy'n gyffredin ac yn ddrud, sy’n ychwanegu at y straen ar wasanaethau gofal iechyd. Mae'n debygol nad yw'r nifer gwirioneddol o dderbyniadau i'r ysbyty oherwydd varicella yn cael ei adrodd yn ddigonol. Mae llawer o'r derbyniadau hyn i'r ysbyty yn deillio o gymhlethdodau eilaidd fel heintiau streptococol grŵp A ymledol neu strôcs yn ystod plentyndod, nad ydynt yn aml yn cael eu cofnodi fel rhai sy'n gysylltiedig â varicella. Efallai y bydd cymhlethdodau eilaidd eraill hefyd sy'n gysylltiedig â varicella nad ydynt wedi'u cofnodi na'u deall yn llawn gyda'r data presennol. 

Mae herpes zoster (yr eryr) yn deillio o ail-actifadu feirws varicella (brech yr ieir). Mae'n fwy cyffredin ymhlith yr henoed ac unigolion imiwnoataliedig. Mae gan y DU raglen frechu gyffredinol rhag yr eryr ar waith ers 2013 mewn oedolion hŷn. Am fwy o wybodaeth, ewch i Yr eryr - Gwybodaeth i weithwyr iechyd 

 

 

Y brechlynnau  

Brechlyn MMRV – y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a varicella (brech yr ieir) 

Mae'r brechlyn MMRV yn frechlyn cyfun diogel ac effeithiol sy'n helpu i amddiffyn rhag pedwar clefyd difrifol, sef - y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir. Mae'r brechlyn yn cynnwys feirysau gwanedig byw’r frech goch, clwy'r pennau, rwbela a varicella. 

Mae MMRV wedi cael ei ddefnyddio mewn gwledydd eraill gan gynnwys UDA, Canada, Awstralia a'r Almaen ers blynyddoedd lawer. Mae gwledydd sydd wedi gweithredu rhaglenni brechu rhag varicella wedi nodi gostyngiad sylweddol mewn achosion o varicella a'r derbyniadau i'r ysbyty cysylltiedig. 

Crynodeb o nodweddion cynnyrch y brechlyn MMRV  

Mae amserlen imiwneiddio reolaidd i blant y GIG yng Nghymru yn defnyddio dau frechlyn MMRV, sef: 

Ystyrir bod y brechlynnau'n gyfwerth yn glinigol ac yn gyfnewidiol, er y gallai Priorix-Tetra® fod yn well i blant nad ydynt yn derbyn gelatin porc. 

Bydd Priorix-Tetra® yn parhau i fod ar gael i gwsmeriaid sy'n gwasanaethu cymunedau nad ydynt yn derbyn brechlynnau sy'n cynnwys gelatin porc. Gall archebu Priorix-Tetra® trwy ImmForm fod yn destun cap; fodd bynnag, darperir opsiwn i ofyn am gynnydd. 

Ni chynigir brechlyn 'varicella yn unig' yn rhaglenni rheolaidd na dethol y GIG. 

 

Brechlyn MMR – y frech goch, clwy'r pennau a rwbela  

Mae'r brechlyn MMR yn frechlyn cyfun sefydledig, diogel ac effeithiol sy'n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Mae'r brechlyn yn baratoad byw o’r frech goch, clwy'r pennau a rwbela wedi'u sychrewi ar ffurf brechlyn gwanedig byw.  

Mae'r brechlyn MMR yn hynod effeithiol ac mae ganddo hanes diogelwch rhagorol. Ers iddo gael ei gyflwyno ym 1988, mae'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela wedi dod yn anghyffredin yn y DU. Ond weithiau mae achosion yn digwydd, yn enwedig y frech goch, pan nad yw digon o bobl yn cael eu brechu.  

Crynodeb o nodweddion cynnyrch y brechlyn MMR  

Defnyddir dau frechlyn MMR yn y DU ar hyn o bryd. Y rhain yw MMR  ar hyn o bryd  a elwir yn MMRvaxPro® a Priorix®. Mae MMRvaxPro® yn cynnwys gelatin porc. Nid yw Priorix® yn cynnwys gelatin.   

Mae canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd yn disodli'r crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC).  
 

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlynnau sy'n cynnwys MMR ar gael ym mhenodau'r Llyfr Gwyrdd ar gyfer pob clefyd. Gweler yr adran Adnoddau a gwybodaeth glinigol.  

Dylai pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sicrhau bod pob cyswllt yn cyfrif a manteisio ar gyfleoedd presennol i wirio statws brechu a rhoi neu drefnu brechiadau sy'n cynnwys MMR ar gyfer:  

  • pob plentyn ac oedolyn ifanc nad yw wedi cael ei frechu 

  • newydd-ddyfodiaid i'r DU wrth gofrestru gyda phractis cyffredinol ac yn ystod asesiadau mewnfudo  

  • menywod ôl-enedigol trwy asesiadau gan ymwelwyr iechyd ac apwyntiadau chwe wythnos ar ôl geni’r baban  

  • menywod sy'n defnyddio gwasanaethau cyn cenhedlu neu ffrwythlondeb.  

  • Dylid defnyddio’r brechlyn MMR i amddiffyn menywod o oedran magu plant a gweithwyr gofal iechyd rhag haint rwbela.  

 

Adrodd am sgil-effeithiau brechlynnau sy'n cynnwys MMR 

Mae'n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi'r cynnyrch meddyginiaethol. Mae'n galluogi i’r cydbwysedd budd/risg y cynnyrch meddyginiaethol gael ei fonitro’n barhaus. Dylech adrodd am amheuon am adweithiau niweidiol i frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn: mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), trwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).  

  

Cwestiynau Cyffredin 

**Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd** 

Rhaglen MMRV: gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)  

 

Canllawiau 

Am fanylion ynghylch newidiadau i'r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant, gweler:  

Canllawiau'r Pwyllgor Cydweithredol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) 

Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant: Datganiad JCVI - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Datganiad JCVI ar raglen brechu rhag varicella (brech yr ieir) i blant - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Rhaglen MMRV: gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig)  

 

 Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru 

Datganiad Ysgrifenedig: Cyflwyno rhaglen reolaidd i frechu rhag varicella (brech yr ieir) (29 Awst 2025) | LLYW.CYMRU (safle allanol) 

  

Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Gellir dod o hyd i bolisi a chanllawiau hefyd ar dudalen Polisi, llythyrau a Llywodraeth Cymru SharePoint Iechyd Cyhoeddus Cymru (mynediad i staff gofal iechyd y GIG)  

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am frechiadau rheolaidd a’r rhai nad ydynt yn rheolaidd. 

  

Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu sesiynau codi ymwybyddiaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y brechlyn MMRV a'r frech goch: 

  • Setiau Sleidiau wedi'u Recordio  

  • Gweminarau 

  • Sleidiau hyfforddi 

Gellir cael mynediad at y rhain trwy'r dudalen E-ddysgu a'r dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau

  

Adnoddau a gwybodaeth glinigol 

Adnoddau ar y frech goch 
Adnoddau ar glwy'r pennau 
Adnoddau ar rwbela 
Adnoddau ar varicella (brech yr ieir) 
Adnoddau ar y brechlyn MMRV 

Brechlynnau plentyndod: canfyddiadau arolwg agweddau rhieni 2025 - GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Agweddau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y DU tuag at gyflwyno brechlyn varicella i'r amserlen frechu plentyndod arferol a'u dewisiadau ar gyfer gweinyddu – ScienceDirect (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Derbyniad a dewisiadau rhieni ar gyfer gweinyddu brechlyn varicella arferol yn y DU: Astudiaeth i lywio polisi - PubMed (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Agweddau paediatregwyr y DU tuag at y brechlyn brech yr ieir: Astudiaeth SPOTTY - ScienceDirect (safle allanol, Saesneg yn unig) 

 

Adnoddau MMR ar gyfer carchardai 
  • Gwybodaeth am y brechlyn i bobl mewn carchardai yng Nghymru Cymraeg/Saesneg  

  • Gwybodaeth i staff sy'n gweithio mewn carchardai yng Nghymru Cymraeg/Saesneg  

 

Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau 

 Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol)   

 

Mwy o adnoddau clinigol a gwybodaeth 

  

Adnoddau cyhoeddus 

 

Rhaglen brechu dal i fyny i blant oedran ysgol 

 

Data a gwyliadwriaeth