Neidio i'r prif gynnwy

MenACWY - Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Mae afiechyd meningococol yn digwydd fel arfer fel llid yr ymennydd neu septisemia (gwenwyn yn y gwaed). 

Ar y dudalen

 

Cefndir

Mae’r clefyd meningococol yn cael ei achosi gan haint ymledol â'r bacteriwm Neisseria meningitidis. Mae 12 grŵp capsiwlaidd wedi'u nodi, ac o'r rhain grwpiau B, C, W ac Y yw'r rhai mwyaf cyffredin yn y DU. Ar ôl cyflwyno'r rhaglen frechu MenC reolaidd yn y DU, gostyngodd achosion o’r clefyd meningococol ymledol a achosir gan grŵp C yn sylweddol. Grŵp B sydd i gyfrif bellach am y rhan fwyaf o’r achosion. Mae’r clefyd meningococol yn glefyd hysbysadwy (safle allanol, Saesneg yn unig) yng Nghymru. 
 
Mae afiechyd meningococol yn cael ei drosglwyddo gan aerosolau anadlol, dafnau neu drwy gysylltiad uniongyrchol â hylifau anadlol rhywun sy'n cario'r bacteria. Mae'r cyfnod magu tua 3-5 diwrnod fel arfer ac mae dechrau'r clefyd yn amrywio o fod yn ddifrifol a sydyn â nodweddion acíwt a llethol i fod yn raddol â symptomau rhagarwyddol ysgafn. 


Y rhaglen frechu

Cynigir brechiad MenACWY i bobl ifanc ym mlwyddyn 9 (13-14 oed) fel mater o drefn. Caiff y brechlyn ei roi fel arfer mewn sesiynau brechu mewn ysgolion ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru. Gellir ei gynnig mewn canolfannau brechu gofal sylfaenol neu gymunedol mewn ardaloedd nad ydynt yn cynnig gwasanaeth yn yr ysgol, neu i bobl ifanc nad ydynt yn gallu cael mynediad at y rhaglen yn yr ysgol. 

Os na fydd unigolion yn derbyn y cynnig cychwynnol o gael y brechiad, byddant yn parhau i fod yn gymwys i’w gael tan eu pen-blwydd yn 25 oed.  

Ers dileu'r dos MenC yn ystod plentyndod cynnar (safle allanol) ym mis Gorffennaf 2025 (Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), Llywodraeth Cymru), y brechlyn MenACWY yw'r unig frechlyn sy'n cynnwys MenC a roddir fel rhan o'r amserlen frechu reolaidd yn ystod plentyndod yng Nghymru. Mae'r brechlyn MenACWY yn diogelu pobl ifanc yn uniongyrchol, ac mae’n diogelu’n anuniongyrchol drwy leihau digwyddedd y clefyd ar draws y boblogaeth (imiwnedd torfol).  

Felly mae'n bwysig ein bod yn cynnal lefel dda o ran y nifer sy'n cael y brechlyn MenACWY a’n bod yn cynnig cyfleoedd i'r rhai sydd wedi methu dal i fyny. 

Gall unigolion eraill y bernir eu bod mewn mwy o berygl o ddal y clefyd meningococol hefyd fod yn gymwys i gael y brechlyn MenACWY cyfun. Mae'r rhai sydd mewn mwy o berygl oherwydd cyflwr meddygol neu driniaeth, teithio, dod i gysylltiad â’r clefyd meningococol yn sgil eu gwaith neu ddod i gysylltiad agos ag achos o’r clefyd meningococol wedi'u hamlinellu yn y bennod o’r Llyfr Gwyrdd - Meningococol (safle allanol, Saesneg yn unig).  


Y brechlyn, y dos a rhoi'r brechlyn

Brechlynnau MenQuadfi®, Menveo® neu Nimenrix® cyfun yw’r brechlynnau MenACWY sydd wedi'u trwyddedu i'w defnyddio yn y DU. Mae'r brechlynnau hyn yn diogelu rhag grwpiau capsiwlaidd meningococol A, C, W ac Y. Mae brechlynnau MenACWY yn frechlynnau anfyw. 

MenQuadfi® yw'r brechlyn sy’n cael ei ddefnyddio fel rhan o'r rhaglen frechu reolaidd yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae wedi'i drwyddedu i’w roi i fabanod o 12 mis oed. 

Mae MenQuadfi® yn cael ei gyflenwi fel toddiant i'w chwistrellu, a dylid ei roi drwy bigiad mewngyhyrol, yn ddelfrydol i gyhyr deltoid y fraich uchaf.  

Fel arfer, cynigir brechiad MenACWY ar yr un pryd â'r pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau. Fel arfer, ac oni nodir yn wahanol, gellir rhoi'r rhan fwyaf o frechlynnau wedi’u anactifadu unrhyw bryd cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â'i gilydd. Gellir rhoi dosau o frechlynnau wedi’u anactifadu hefyd ar unrhyw gyfnod cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â brechlyn byw. 

Pan fydd dau bigiad neu fwy yn cael eu rhoi ar yr un pryd, dylid eu rhoi mewn mannau ar wahân, yn ddelfrydol mewn aelod gwahanol. Os yw’n fwriad rhoi mwy nag un pigiad yn yr un aelod, dylid eu rhoi o leiaf 2.5cm oddi wrth ei gilydd. 


Crynodeb o nodweddion y cynnyrch (SmPC)

Mae'n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi'r cynnyrch meddyginiaethol. Mae'n galluogi’r cydbwysedd budd/risg y cynnyrch meddyginiaethol i gael ei fonitro’n barhaus. Dylech adrodd am amheuon am sgil-effeithiau brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn: mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm). 

Mae'r canllawiau ar yr amserlen yn y Llyfr Gwyrdd - Meningococol (safle allanol, Saesneg yn unig) yn disodli'r SmPC. 


Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod: 
 
Joint Committee on Vaccination and Immunisation - GOV.UK (Safle allanol, Saesneg yn unig) (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. meningococol).
 

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

 

 

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Darperir gwybodaeth ac adnoddau hyfforddi ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau

Gellir cael mynediad at gyrsiau ar-lein ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â brechu drwy ESR a cheir dolen iddynt o dudalen  e-Ddysgu Imiwneiddio - Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

 

 

Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau

Mae’r canllaw Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD), protocolau cenedlaethol, dogfennau cynghori, templedi ac adnoddau ar gael yn Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol).  

Templedi, adnoddau clinigol a gwybodaeth

 

Mae rhagor o adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc oedran ysgol ar gael o Adnoddau brechlynnau ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol       

Mae'r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am raglenni imiwneiddio rheolaidd a detholus a brechlynnau ychwanegol y gallai fod angen eu hystyried ar gyfer unigolion â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes.  

 

 

 

Data a goruchwyliaeth