Neidio i'r prif gynnwy

On this page

 

Cefndir

Mae twbercwlosis (TB) dynol yn cael ei achosi gan haint gyda’r bacteria Mycobacteriwm twbercwlosis cymhleth (M. tuberculosis, M. bovis, M. africanum neu M.microti) a gall effeithio ar unrhyw ran o'r corff bron. Y ffurf fwyaf cyffredin yw TB ysgyfeiniol. Mae symptomau TB yn amrywiol ac yn dibynnu ar leoliad yr haint. Gall y symptomau cyffredinol gynnwys y canlynol:

  • tymheredd uchel
  • dim awydd bwyd
  • colli pwysau
  • chwysu yn ystod y nos a
  • blinder

Mae TB ysgyfeiniol yn achosi peswch cynhyrchiol parhaus fel rheol, a all gyd-fynd â sbwtwm gwaedlyd, neu, yn fwy anaml, haemoptysis amlwg. Heb ei drin, mae TB yn y rhan fwyaf o oedolion sy’n iach fel arall yn afiechyd sy'n datblygu'n araf a gall fod yn angheuol yn y pen draw.

Mae cyfraddau TB wedi bod yn gostwng yng Nghymru ers 2009. Er gwaethaf hyn, mae'r afiechyd yn parhau i fod yn bryder. Er bod cyfanswm yr achosion wedi gostwng, cynyddodd cyfran yr achosion wedi’u geni yn y DU. Mae’r achosion hyn yn aml ymhlith poblogaethau sy’n adrodd am lefelau uchel o ffactorau risg cymdeithasol fel digartrefedd, carchardai neu ddefnyddio cyffuriau.

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Ym mhob achos, mae'n rhaid rhoi'r brechlyn BCG yn gwbl fewndermol, fel rheol yn rhan uchaf y fraich chwith ar y lefel lle mae’r cyhyr deltoid yn mynd i mewn (ychydig uwchben canol rhan uchaf y fraich chwith - fel yr argymhellir gan y WHO).

Rhagor o wybodaeth: Twbercwlosis: y llyfr gwyrdd, pennod 32 - GOV.UK

 

Cyfarwyddyd

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

 

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau ac afiechydon drwy'r dudalen E-ddysgu.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.

 

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Cyfarwyddiadau grwp cleifion

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau.

Mae mwy o adnoddau a gwybodaeth glinigol ar gael ar y tudalennau canlynol

 

Data a goruchwyliaeth