Neidio i'r prif gynnwy

Dyfodol

Beth yw Dyfodol? Mae Dyfodol yn disgrifio ystod o offer a thechnegau a all ein helpu i feddwl am ddyfodol tebygol, posibl a gwell. Mae defnyddio technegau Dyfodol yn ffordd syml ac ymarferol o feddwl yn yr hirdymor, sy’n un o’r pum ffordd o weithio yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae gwaith Dyfodol hefyd yn helpu gyda’r ffyrdd eraill o weithio. Mae’n cael pobl i weithio gyda’i gilydd, mae’n caniatáu rhannu gwybodaeth arbenigol a gweledigaeth o wahanol ffynonellau ac yn helpu i ragweld heriau posib fel y gallwch gymryd camau gweithredol. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y technegau a sut i'w defnyddio – mae'n haws nag yr ydych chi'n meddwl!