Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch y Newid: Camau cynaliadwy tuag at nodau llesiant Cymru

Byddwch y Newid: Camau cynaliadwy tuag at nodau llesiant Cymru
Mae Byddwch y Newid yn fudiad/ymgyrch sy’n annog a chefnogi staff i gymryd camau cynaliadwy yn y gweithle i gyfrannu’n unigol tuag at nodau llesiant Cymru.   Rydym wedi datblygu Byddwch y Newid yn seiliedig ar ganfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth (uchod) i wneud y gorau o’n gweithlu yng Nghymru gan eu bod mewn sefyllfa unigryw i’n helpu i ddod yn genedl fwy cynaliadwy.

Yn dilyn lefel y diddordeb yn yr e-ganllawiau Byddwch y Newid a luniwyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru hyd yma, mae’r Hwb wedi datblygu pecyn cymorth i helpu cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid ehangach i fabwysiadu ‘Byddwch y Newid’ yn eu gweithleoedd. Nod y pecyn cymorth hwn yw darparu gwybodaeth, ond hefyd cefnogi staff i ddod yn ‘gyfryngau i newid’ trwy eu helpu i wneud newidiadau bach cynaliadwy ar lefel unigol, neu trwy gydweithio fel timau.

Byddwch y Newid y pecyn cymorth