Rydych chi'n gwybod eich arferion bwyta yn well nag unrhyw un arall A ydynt wedi newid? Beth gallech chi wella tybed? Gall bwyta'n dda ein helpu i gadw'n gryf, yn iach ac yn optimistaidd a chyda pheth cynllunio, gwneud i'n harian fynd ymhellach.
Dyma rai o'r ffyrdd y mae pobl o bob rhan o Gymru yn defnyddio bwyd i ofalu am eu hunain a'i gilydd:
Beth fyddai'n eich helpu i gynllunio'r siopa? Gall llunio rhestr siopa ein helpu i osgoi prynu'n fyrbwyll a chadw at ein cyllidebau. Efallai na fydd rhai o'n ffefrynnau bwyd arferol ar gael ar hyn o bryd felly meddyliwch am ddewisiadau eraill rhag ofn na fyddwch yn gallu dod o hyd i'r hyn rydych chi ei eisiau. Cliciwch yma i gael rhestrau a chynlluniau enghreifftiol.
Bydd bwyta amrywiaeth o fwydydd yn rhoi'r cyflenwad o faethynnau sydd eu hangen arnom i gadw'n iach ac yn gryf. Mae llawer o bobl yn defnyddio'r canllaw Bwyta'n dda i'w helpu i fwyta deiet iach a chytbwys. Gall cymryd atchwanegiad fitamin D helpu hefyd gan ein bod yn treulio mwy o amser dan do.
Ceisiwch gyfyngu ar y byrbrydau afiach sydd ar gael yn y tŷ drwy lynu at eich rhestr. Pa fyrbrydau y gallwch eu cyfnewid? Mae syniadau yma.
Gall cynnal ein hamser prydau bwyd arferol, a llunio cynlluniau bwyd, ein helpu i aros yn ymwybodol o'r hyn rydym yn ei fwyta a rhoi rhywfaint o strwythur i'r diwrnod. Sut rydych chi'n dod o hyd i ffyrdd o gadw rhywfaint o strwythur yn eich diwrnod? Beth sy'n eich helpu i roi'r gorau i anelu am yr oergell rhwng prydau bwyd?
Beth ydych chi wedi ei baratoi yn ddiweddar? Gall coginio gartref olygu bod y bwyd rydych yn ei goginio yn iach a blasus - a gall eich helpu i arbed arian hefyd. Mae llawer o bobl o'r farn bod coginio yn ffordd o ymlacio a chysylltu â theulu a ffrindiau drwy rannu eich llwyddiannau, eich awgrymiadau a'ch syniadau. Ewch i’r dolenni isod i gael rhagor o syniadau.
Gallwch ddefnyddio’r amser rydych chi’n ei dreulio’n paratoi bwyd i wneud gweithgareddau eraill i’ch helpu i gadw’n iach a hapus gartref.
Rhowch gynnig ar y ryseitiau #bwydteulu hawdd hyn. Maen nhw’n fach o ran amser, cynhwysion ac arian, ond yn iachus i’r teulu i gyd.
Mae’r ryseitiau hyn yn gwneud defnydd o beth sydd yn y tŷ yn barod, ond gallwch chi gyfnewid cynhwysion os oes angen. Ceisiwch wneud sypiau o fwyd fel bod gennych ddigon o brydau i bara rhai diwrnodau.
Defnyddiwch y cynlluniau bwyd, rhestri siopa a syniadau cyfnewid bwyd fel ysbrydoliaeth i’ch helpu i gynllunio ymlaen llaw, cadw at drefn a bwyta mor dda â phosib.
Gall sylwi ar faint dognau helpu i gynyddu ein hymwybyddiaeth o faint rydym yn ei fwyta. Rhowch gynnig ar y canllaw defnyddiol hwn ar un dudalen.
Efallai y bydd angen i lawer mwy ohonom fanteisio i'r eithaf ar gymorth cymunedol fel Banciau Bwyd a thalebau siopa. Mae llawer o bobl yn defnyddio cymorth fel hyn i gadw eu hunain yn iach ac yn gryf. Edrychwch ar ein dolenni i gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi.
I ddarganfod os ydych chi'n gymwys i gael talebau cychwyn iach, neu i wneud cais, ewch i wefan cychwyn iach.
I ddarganfod ble mae'ch banc bwyd agosaf ewch i Trussell Trust neu FareShare.
Gall teuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ddarganfod sut i gael gafael ar gymorth gan eu hawdurdod lleol.
Mae cyfryngau cymdeithasol a phrint yn llawn o straeon am ddeietau penodol iawn neu fwydydd daionus sy'n honni amddiffyn rhag Coronafeirws. Y deiet gorau i'w ddilyn yw deiet amrywiol a chytbwys, a argymhellir gan Faethegwyr a Deietegwyr Iechyd Cyhoeddus AfN Cofrestredig. Defnyddiwch ffynonellau credadwy o wybodaeth am fwyd gan gynnwys safleoedd y GIG, Cymdeithas Ddeieteg Prydain ac eraill ar ein tudalennau adnoddau.