Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae lleihau'r perygl o ddal neu ledaenu'r coronafeirws

I ddiogelu eich hunan a phobl eraill:
•    golchwch eich dwylo’n aml gyda dŵr a sebon am o leiaf 20 eiliad.
•    golchwch eich dwylo bob tro rydych yn cyrraedd adref neu’n cyrraedd y gwaith
•    defnyddiwch jel diheintio dwylo os nad oes dŵr a sebon ar gael
•    wrth beswch neu disian, gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn gyda hances boced neu lawes (nid eich dwylo)
•    rhowch hancesi poced yn y bin yn syth ar ôl eu defnyddio a golchwch eich dwylo wedyn
•    ceisiwch osgoi dod yn agos at bobl sy’n sâl
•    peidiwch â chyffwrdd eich llygaid, trwy neu geg os nad yw eich dwylo’n lân
Os dywedwyd wrthych i aros i mewn ac osgoi pobl eraill, cofiwch ddilyn y canllawiau aros yn y cartref.