Er nad ydych wedi cael symptomau, rydych chi’n dal i allu pasio'r feirws i bobl eraill. Mae'n rhaid i chi barhau i ddilyn y cyngor 'Hunanynysu’ a ‘Rhoi’r gorau i ynysu’ fel y dangosir drwy’r dolenni uchod. Dylid defnyddio'r dyddiad y cynhaliwyd eich prawf COVID-19 fel diwrnod cyntaf y cyfnod hunanynysu 7 diwrnod. Os byddwch yna'n datblygu symptomau o fewn y 7 diwrnod hynny, defnyddiwch ddyddiad cychwyn eich symptomau fel diwrnod cyntaf eich cyfnod hunanynysu. Defnyddir yr un dyddiad fel diwrnod cyntaf y cyfnod ynysu o 14 diwrnod ar gyfer aelodau eich aelwyd. Symptomau Rheolaidd Mae COVID-19 yn haint newydd, ac rydym yn dysgu mwy amdano dros amser. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod a allwch chi gael COVID-19 eto ar ôl gwella ohono. Felly, os byddwch yn datblygu rhagor o symptomau sy'n gyson â COVID-19, y cyngor ar hyn o bryd yw y dylech chi ac aelodau eich cartref hunanynysu eto a chewch ofyn am brawf arall. |